Cymry mewn tri lle: Colombia, De Korea a Chaernarfon
- Cyhoeddwyd
Ar ôl troedio tri cyfandir gwahanol eleni, mae un teulu o Gaernarfon yn falch o fod adref ar gyfer y Nadolig.
Mae Cai Roberts, ei wraig Anna, a'i merch fach dwy oed Elan wedi dychwelyd yn ôl i ogledd Cymru i ddathlu'r ŵyl.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i'r tri, o fyw mewn dinas liwgar gyffrous fel Bogota, Colombia, cyn codi pac i wlad lle mae rhaid cydymffurfio gyda diwylliant unigryw De Korea.
Gydag Anna yn feichiog gyda'i hail blentyn, roedd hi'n awyddus i'r babi gael ei eni yng Nghymru a bod ymhlith teulu a ffrindiau yn dilyn blwyddyn fythgofiadwy.
Mae Cai yn athro addysg gorfforol ac wedi treulio blynyddoedd lawer yn teithio'r byd yn dysgu'r pwnc.
Wedi iddyn nhw briodi, symudodd Cai i ddechrau swydd fel Cyfarwyddwr Athletau yng Ngholeg Anglo Colombiano yn Bogota.
Dywedodd Anna: "Mae 'na fwy i Colombia na Pablo Escobar a dawnsio Salsa. Mae'n wlad brysur, enfawr a mynyddig. Mae teithio o gwmpas yn heriol ac mae'n llawer iawn haws hedfan o un man i'r llall.
"Buom yno am bron i ddwy flynedd i gyd ac roedd y cyfnod yn un hapus a difyr iawn o ran gwneud ffrindia newydd, dysgu iaith newydd (Sbaeneg) a dod i ddeall mwy am ddiwylliant a hanes Colombia a De America.
"Mae rhywun yn cysylltu Colombia gyda chyffuriau a thrais. Y gwirionedd ydi mai hi'n wlad eithriadol o ddrud i fyw ynddi, yn enwedig Bogota.
"Mae 'na gangiau yn gweithredu yno, ac ar ôl i ni symud yno fe gafon ni gyngor o le i fynd ac ardaloedd i gadw allan ohonyn nhw pan oedd hi'n nosi.
"Am fod Cai yn gweithio pob dydd roeddwn i'n mynd allan i gerdded yn aml gydag Elan. Dim ond unwaith cefais fy mygio, ac mi oedd yn brofiad dychrynllyd.
"'Da chi'n clywed hanes o bobl yn cael eu bygwth gyda chyllell, ond diolch byth wnaeth hynny ddim digwydd.
"Tua mis Chwefror eleni roeddwn wedi cael fy nhargedu gan dair dynes yn gweithio gyda'i gilydd. Fe wnaeth un gymryd fy sylw drwy ollwng arian mân ar y llawr tra oedd un arall wedi dwyn y ffôn.
"Nesh i'm sylwi nes i mi gyrraedd adref. Dyma i ddeud gwir oedd yr unig brofiad negyddol i mi gael yno," meddai Anna.
Daeargrynfeydd a diogelwch
Mae Colombia yn cael ei ystyried yn wlad sy'n cael daeargrynfeydd yn aml. Gan fod Cai yn gweithio yn y coleg, roedd hi'n ofynnol iddo fod yn ymwybodol o'r dulliau argyfwng pan fo daeargryn.
"Roedd yn rhaid i ni fod yn barod am sefyllfaoedd gwahanol. Roedd yna sain wahanol dros y system uchelseinydd sy'n gorfodi pawb i ymateb yn wahanol i sefyllfaoedd.
"Roeddem ni fel athrawon wedi ein hyfforddi i ymateb i'r sain. Roedd sŵn ar gyfer daeargryn ac un hefyd yn ymwneud a diogelwch.
"Dwi wedi sylwi ers gweithio mewn sawl ysgol dramor dros y blynyddoedd fod mwy o sylw yn cael ei roi i ddiogelwch, yn enwedig i fygythiadau terfysgol," meddai Cai.
Erbyn mis Awst roedd hi'n amser symud ymlaen o Bogota a dechrau bywyd newydd yn Ne Korea.
Dyma symud felly o brif ddinas llawn llygredd yn Bogota i ynys lân Jeju, De Korea.
"Mae De Korea yn un o'r llefydd glanaf dwi erioed wedi bod ynddo," meddai Anna.
"Mae safonau byw yn eithriadol o uchel yno, ac mae'r bobl yno'n gweithio'n eithriadol o galed.
Er bod llawer o sôn wedi bod yn y wasg Brydeinig ynglŷn â sefyllfa fregus Gogledd Korea, yn ôl Cai mae'r cyfan yn seiliedig ar yr hyn mae newyddiadurwyr o'r gorllewin yn dweud. Does dim pryder, yn enwedig yn Ne Korea, ynglŷn â'r sefyllfa meddai.
"Tydi'r bobl yma ddim yn poeni cymaint â hynny ynglŷn â'r gogledd. Yn answyddogol mae'r ddwy wlad yn parhau i fod mewn rhyfel.
"Ond mae popeth yn dawel yma a'r gweddill sy'n dewis trafod y sefyllfa yn y gogledd ac nid y bobl sy'n byw yma."
Ers symud i'r ynys mae Cai yn gweithio yn y North London Collegiate School (NLCS) ac yn wahanol i Golombia, tydi disgyblion De Korea ddim mor angerddol tuag at chwaraeon.
Graddau da yn bwysig
"Yng Ngholombia roedd pawb wrth eu boddau gyda chwaraeon. Yn Jeju canlyniadau arholiadau sydd bwysicaf i'r disgyblion a'i rhieni.
"Mae ffioedd dysgu yn eithriadol o uchel yma ac mae'n rhan o natur y disgyblion i weithio'n galed.
"Mae rhieni'r disgyblion yn cymryd diddordeb mawr yn eu haddysg hefyd.
"Os dwi er enghraifft yn rhoi gradd B i ddisgybl, yn aml iawn byddai'r rhiant wedyn yn fy e-bostio yn gofyn pam? Felly mae'r bygythiad o gael gradd isel gan athro wastad yn gwneud iddyn nhw berfformio'n well drwy weithio'n galed.
Wrth edrych ar y ddwy wlad o ran safon byw, mae Cai yn teimlo'n gwbl gyfforddus yn gadael nwyddau allan gan wybod na fydden nhw'n cael eu dwyn.
"Roedd trosedd yn uchel iawn yng Ngholombia. Dwi'n gallu gadael fy meic allan yn yr awyr agored yma gan wybod byddai'n saff.
Geni adra
"Os baswn i wedi gwneud hynny'n Bogota mi fase'r beic wedi diflannu o fewn pum munud," meddai.
Ond wedi ychydig fisoedd ar yr ynys a drwy ddod i arfer gyda bwydydd a diwylliant hollol wahanol mae Cai, Anna ac Elan wedi setlo i'w bywyd newydd.
Bellach mae'r tri yn ôl yng Nghaernarfon i dreulio gŵyl y Nadolig wrth i Anna baratoi i roi genedigaeth i'w hail blentyn.
"Mae De Korea yn lle gwych i fagu plant. Mae Elan wedi setlo'n grêt yno ac mi rydan ni'n edrych ymlaen at fynd yn ôl yno ym mis Chwefror gydag aelod bach newydd i'r teulu," meddai.