Rhybudd i gymryd gofal ar ffyrdd y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio pobl i gymryd gofal ar y ffyrdd wrth i ragor o gawodydd gaeafol ddisgyn nos Fercher.
Mewn neges ar eu cyfrif Twitter, maen nhw'n dweud y gallai ffyrdd ar dir uchel fod yn beryglus.
Ymysg yr ardaloedd dan sylw mae Bwlch y Gorddinan rhwng Blaenau Ffestiniog a Dolwyddelan, Bylchau yn Sir Conwy a'r A470 yn Ninas Mawddwy.
Mae rhybudd melyn am rew yn y parhau mewn grym yn y gogledd tan 11:00 ddydd Iau.
Mae disgwyl cawodydd o law ac eirlaw i symud tua'r dwyrain dros nos, gydag eira'n disgyn ar y bryniau a thir is ar adegau, a'r tymheredd yn gostwng i 1°C.