Rhybudd melyn am rew i Gymru dros nos
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru dros nos.
Does dim disgwyl i'r perygl o rew fod mor uchel ag yr oedd yn gynharach yn yr wythnos.
Ond mae'r rhagolygon yn rhybuddio y gallai rhai ffyrdd, palmentydd a llwybrau gael eu heffeithio, yn enwedig ble bydd cawodydd gaeafol neu eira sydd dal heb glirio.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 17:00 ddydd Gwener ac 11:00 ddydd Sadwrn, ond does dim disgwyl iddo effeithio ar ardaloedd arfordirol.