Galw am fwy o gyfleusterau dementia yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
DementiaFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae galwadau am fwy o ofal dementia arbenigol yng Ngheredigion, gyda rhai teuluoedd yn dweud bod eu hanwyliaid wedi gorfod symud hyd at 60 milltir i ffwrdd i dderbyn gofal.

Mae cartrefi nyrsio i Henoed Eiddil eu Meddwl (Elderly Mentally Infirm) yn cynnig gofal 24 awr i bobl sydd â symptomau difrifol o ddementia.

Ond mae nifer o deuluoedd yng Ngheredigion yn dweud bod yr unig wlâu EMI maen nhw wedi cael eu cynnig y tu allan i'r sir, ac yn aml dros awr i ffwrdd.

Dywedodd Cyngor Ceredigion mai saith gwely EMI sydd yn y sir, a'u bod oll yn llawn.

Ar wahân dros y Nadolig

Un o'r rhai sydd wedi gorfod teithio ymhell o'i chartref i gael gofal yw Sonia Jenkins o Aberystwyth.

Mae hi'n byw â chyflwr Alzheimer ac yn cael gofal yng Nghartref y Rhallt yn Y Trallwng yn ddiweddar - taith 55 milltir o Aberystwyth.

Dywedodd ei gŵr David Jenkins, 75, y bydd yn rhaid iddyn nhw dreulio'r Nadolig ar wahân am y tro cyntaf ers 50 mlynedd eleni.

"Penderfynwyd bod Sonia angen gofal meddygol parhaol mewn cartref nyrsio EMI," meddai Mr Jenkins wrth BBC Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n teimlo fel bod hanner eich bywyd wedi cael ei rwygo o'ch dwylo,' medd David Jenkins

"Fe roddon nhw restr o gartrefi nyrsio oedd ar gael - Caerfyrddin, Caernarfon, Llandudno, Wrecsam, Y Drenewydd a'r Trallwng.

"Doeddwn i ddim eisiau iddi adael Aberystwyth. Roeddwn yn teimlo fel fy mod yn cefnu arni.

"Dydych chi ddim yn bâr mwyach. Mae'n teimlo fel bod hanner eich bywyd wedi cael ei rwygo o'ch dwylo."

Dywedodd Mr Jenkins mai dim ond unwaith yr wythnos y mae'n gallu gweld ei wraig am ei bod yn her gorfforol iddo gwblhau'r daith tair awr i'r Trallwng ac yn ôl.

'Mwy yng nghefn gwlad'

Dyw awdurdodau lleol Cymru ddim yn gallu darparu gofal EMI yn uniongyrchol - yn hytrach mae'n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ddarparwyr preifat.

Mae Cymdeithas Alzheimer Cymru wedi dweud mai ardaloedd gwledig fel Ceredigion a Phowys sy'n debyg o weld y cynnydd mwyaf yn nifer y cleifion sydd â dementia.

Maent yn amcangyfrif y bydd 17,000 o bobl â dementia yn byw yng nghefn gwlad Cymru.

Dywedodd Eileen Jones, o Aberystwyth, bod gorfod gyrru ei diweddar ŵr 79 oed, Sinnett, i fyw mewn cartref EMI yn Y Trallwng yn golygu nad oedd hi wedi gallu ei weld yn ei oriau diwethaf.

"Fe wnaeth hynny wir fy ypsetio, 'mod i ddim wedi gallu bod gydag e ar ei ddiwrnod olaf," meddai.

"Roedd hi'n hwyr yn y nos pan wnaethon nhw ffonio i ddweud ei fod yn gwaethygu.

"Doedd 'na ddim oeddwn i'n gallu ei wneud, er 'mod i eisiau bod yno."

Mae Eileen yn gobeithio na fydd eraill yn gorfod mynd trwy'r un profiad.

"Pan chi'n priodi chi'n addo i fod gyda'ch cymar yn glaf ac yn iach. Mae hynny yn dod 'nôl i fi o hyd."