Rhybudd i gerddwyr yn Eryri dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Bwlch GlasFfynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Ardal Bwlch Glas yr Wyddfa yn gynharach yn y mis

Mae wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn atgoffa pobl sy'n ystyried mynd i gerdded ar y mynyddoedd yn ystod gwyliau'r Nadolig i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod yn union sut dywydd i'w ddisgwyl cyn cychwyn.

Wrth i'r tywydd mwyn droi'n oer dros y dyddiau nesaf, maen nhw'n rhybuddio bod disgwyl eira ar gopaon mynyddoedd Eryri ddydd Nadolig a dydd San Steffan.

Mae disgwyl i'r gwynt hefyd ostwng y tymheredd i -10ºC a bydd gofyn i gerddwyr fod yn ymwybodol y bydd llawer o rew dan draed.

Mae tair ffynhonnell bwysig o wybodaeth er mwyn gwirio'r tywydd cyn mentro ar Yr Wyddfa:

Ffynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl llawer o rew dan draed ar gopaon mynyddoedd Eryri dros yr ŵyl

Ar ben hynny, mae 'na apêl ar gerddwyr i wisgo'n addas ac i gario offer priodol.

Dywedodd Warden yr Wyddfa, Carwyn ap Myrddin: "Yn ogystal â gwirio'r amodau cyn mentro, rhaid paratoi'n ddigonol a phan fo eira a rhew dan draed, dydy gwisgo'n gynnes ddim yn ddigon o bell ffordd.

"Mae'n hanfodol cario caib rhew, cramponau a gogls sgïo yn ogystal â dillad cynnes sbâr, yn ychwanegol at y cit arferol sydd ei angen i gerdded mynyddoedd."

Mae rhagor o gyngor ar baratoi ar gyfer cerdded yn y mynyddoedd ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri, dolen allanol.