Dim trydan wedi tywydd garw

  • Cyhoeddwyd
Mynyddoedd y Preseli
Disgrifiad o’r llun,

Rhew ac eira ar Fynyddoedd y Preseli

Mae rhai cannoedd o gartrefi yn y de wedi bod heb drydan fore Mercher o ganlyniad i'r tywydd garw dros nos.

Yn ôl cwmni Western Power Distribution roedd dros 1000 o dai heb drydan ar un adeg yng Nghymru, ond bellach mae hynny wedi gostwng i 150.

Dywed y cwmni ar eu cyfrif trydar eu bod yn ymwybodol o broblemau yn ardaloedd y Coed Duon a Bargoed, ond eu bod yn gobeithio adfer y cyflenwad y bore ma.

Mae ras Grand National Cymru yng Nghas-gwent wedi ei chanslo yn sgil y tywydd gyda rhannau o'r cwrs o dan ddŵr.

Mae'r tywydd hefyd yn achosi peth problemau yn y gorllewin hefyd.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn newydd am rew ar y ffyrdd dros Gymru gyfan rhwng 16:00 ddydd Mercher a 11:00 fore Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfarwyddwr cwrs rasio ceffylau Cas-gwent, Phil Bell yn dangos pa mor ddrwg yw'r cwrs

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol bod pedwar rhybudd llifogydd mewn grym yng ngogledd a gorllewin Sir Benfro, y Gwendraeth Fach a'r Gwendraeth Fawr, Afon Cynin, a gorllewin y Cleddau.

Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd yn rhybuddio ar eu cyfrif trydar bod sawl ffordd yn Sir Benfro yn llithrig y bore ma.