Dirwy i Gaerfaddon am ryddhau Faletau

  • Cyhoeddwyd
faletauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae clwb rygbi Caerfaddon wedi cael dirwy o £60,000 am ganiatáu i Taulupe Faletau chwarae dros Gymru yn erbyn De Affrica ddechrau mis Rhagfyr.

Hon oedd y bedwaredd gêm yng nghyfres yr hydref, ac nid oedd o fewn y cyfnod swyddogol ar gyfer gemau rhyngwladol.

Fe wnaeth clwb Caerfaddon gyfadde' torri rheolau Bwrdd Rygbi Uwch Gynghrair Lloegr.

Dyma'r eildro i glwb o Loegr gael dirwy am wneud hyn - fe gafodd clwb Northampton ddirwy o £60,000 yn 2013 am ryddhau George North i chwarae dros Gymru mewn amgylchiadau tebyg.