Achub cerddwyr o Grib Goch

  • Cyhoeddwyd
Walker winched to safetyFfynhonnell y llun, Maritime and Coastguard Agency

Fe gafodd dau berson - oedd heb y cyfarpar cywir yn ôl achubwyr - eu tynnu gan hofrennydd o un o lwybrau perycla'r Wyddfa ddydd Mawrth.

Aeth y ddau yn sownd ar Grib Goch mewn amodau rhewllyd ar Ŵyl San Steffan.

Fe gafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei alw i gynorthwyo tri aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis er mwyn sefydlogi'r ddau gerddwr cyn iddyn nhw gael eu hedfan oddi ar y mynydd.

Mewn datganiad, dywedodd Gwylwyr y Glannau: "Nid oedd gan y cerddwyr y cyfarpar cywir ar gyfer yr amodau, ond yn ffodus ni chafwyd unrhyw anafiadau.

"Ni ddylid tan-amcangyfrif mynyddoedd y DU gan eu bod yn gallu bod yn ddidrugaredd hyd yn oed i'r rhai mwyaf profiadol."

Hyd yn oed yn yr haf mae Grib Goch yn cael ei ystyried yn ddringfa heriol. Yn y gaeaf mae'r llwybr yn caelei ddynodi'r llwybr mynydda, ac mae felly angen cyfarpar dringo llawn fel bwyelli iâ a chramponau.

Ffynhonnell y llun, Maritime and Coastguard Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd eira a rhew ar y clogwyn, sy'n un o'r peryclaf yn Eryri