Rhybudd am ffyrdd a phalmentydd llithrig ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
graeanu

Mae yna rybudd i bobl fod yn ofalus ar ffyrdd llithrig, wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am dywydd rhewllyd.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i bob un o 22 awdurdod lleol Cymru.

Fe allai hi fod yn llithrig ar ffyrdd sydd heb eu trin, palmentydd a llwybrau seiclo, medd llefarydd.

Bydd y rhybudd yn parhau tan 11:00 ddydd Iau.

Mae trydan wedi ei adfer i'r rhan fwyaf o gartrefi gollodd bwer wedi tywydd garw'n gynharach yn yr wythnos, medd Western Power Distribution.