Safleodd Cadw yn denu 900,000 o bobl yn 2017
- Cyhoeddwyd
Fe ddaeth mwy na 907,000 o ymwelwyr i safleoedd Cadw yng Nghymru yn ystod 2017, gan greu incwm o £4.4m yn ôl ffigyrau newydd.
Mae hynny'n cynrychioli cynnydd o bron 20% yn nifer y bobl ddaeth drwy'r drysau yn 2016.
Mae gan Cadw - y corff a sefydlwyd i warchod henebion ac adeiladau hanesyddol Cymru - hefyd fwy o aelodau nag erioed bellach, sef 32,000.
Y safle mwyaf poblogaidd yn 2017 oedd Castell Conwy a groesawodd 218,907 o bobl, gyda Chastell Caernarfon yn ail ar 206,185 ymwelydd.
Mae'r corff yn dweud bod rhan o lwyddiant 2017 oherwydd ymgyrch farchnata twristiaeth Blwyddyn y Chwedlau gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ymgyrch debyg Blwyddyn Antur yn 2015 wedi dod â £370m ychwanegol i economi Cymru - cynnydd o 18% o'i chymharu â 2015.
Eisoes mae'r Gweinidog Twrisitiaeth, Dafydd Elis-Thomas wedi cyhoeddi mai Blwyddyn y Môr fydd thema ymgyrch 2018.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2017