Dafydd Elis-Thomas: 'Marchnata Cymru fel tywysogaeth'

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Elis-Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dafydd Elis-Thomas ymuno â chabinet Llywodraeth Cymru fis diwethaf

Mae'r Gweinidog Twristiaeth Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn bwriadu hyrwyddo Cymru fel "tywysogaeth o fewn y Deyrnas Unedig".

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas fod y Tywysog Charles yr un mor awyddus ag o i farchnata'r wlad fel tywysogaeth.

Fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon newydd ei sylwadau mewn derbyniad yn Swyddfa Cymru yn Llundain.

Dywedodd wrth y gynulleidfa: "Rydyn ni'n mynd i hyrwyddo tywysogaeth Cymru fel tywysogaeth wych."

Dadleuol

Mae'r gair "tywysogaeth" yn un dadleuol yng Nghymru, gan nad yw'r wlad wedi bod yn un ers yr 16eg Ganrif.

Ond mewn ymateb dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Unrhyw un sydd ddim yn hoff o'r gair yma, fe welai chi ar y diwedd."

Mae Geiriadur Saesneg Rhydychen yn disgrifio principality fel "tiriogaeth sydd wedi'i reoli neu ei lywodraethu gan dywysog", ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu fod hynny'n wir am Gymru bellach.

Mewn datganiad yn 2008 fe ddywedon nhw: "Dyw Cymru ddim yn dywysogaeth. Er bod gyda ni gysylltiad tirol gyda Lloegr, a'n bod ni'n rhan o Brydain Fawr, mae Cymru yn wlad yn ei hun."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru: "Nid yw hyn yn bolisi Llywodraeth Cymru a ni allwn ni wneud sylw pellach ar sylwadau personol ble nad oedd y gweinidog yn bresennol yn rhinwedd ei swydd."