Rhybudd melyn am law trwm i rannau o dde Cymru

  • Cyhoeddwyd
glawFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai glaw trwm daro rhannau o dde Cymru dros nos, gan achosi llifogydd ac effeithio ar deithwyr.

Mae'r rhybudd melyn mewn grym rhwng 18:00 ddydd Sadwrn a 09:00 ddydd Sul.

Gallai hyd at 1.5 modfedd (4cm) ddisgyn mewn rhai mannau, yn enwedig fore Sul, gan effeithio ar y ffyrdd.

Fe allai cartrefi a busnesau hefyd gael eu heffeithio os yw lefel y dŵr yn codi'n rhy uchel.

Y siroedd yng Nghymru allai gael eu heffeithio yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Merthyr Tudful, Caerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg.