Trafferthion i deithwyr trenau a llongau Nos Galan
- Cyhoeddwyd
Mae Trenau Arriva Cymru wedi annog teithwyr i gynllunio o flaen llaw wrth iddyn nhw baratoi i roi stop i'w gwasanaethau yn ystod dathliadau'r Flwyddyn Newydd.
Bydd llai o wasanaethau yn rhedeg o 20:00 nos Sul ymlaen, gyda threnau'n stopio'n gyfan gwbl am 22:00.
Mae disgwyl i'r gwasanaethau ailddechrau'n hwyrach na'r arfer ddydd Llun hefyd, oni bai am linell Cymoedd Caerdydd fydd yn dechrau eto ddydd Mawrth.
Dywedodd Arriva y dylai teithwyr geisio "sicrhau y gallwch chi gwblhau eich siwrne" cyn i'r gwasanaethau ddod i ben Nos Galan.
Mae tywydd garw hefyd wedi golygu fod Irish Ferries wedi canslo tair siwrne rhwng Dulyn a Chaergybi.
Fe wnaeth y cwmni ymddiheuro i'r rheiny oedd i fod hwylio am 08:45, 14:15 a 14:30 ddydd Sul, gan ddweud y byddan nhw'n canfod lle iddyn nhw ar longau eraill.