Gareth Wyn Jones: Galw am fwyta'n lleol cyn dadl feganiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i ffermwr o Gymru ddweud bod angen parchu cig drwy "fwyta bwydydd yn eu tymor, a dewis cynnyrch sy'n lleol", mewn dadl ryngwladol am feganiaeth nos Iau.
Bydd Gareth Wyn Jones, ffermwr a darlledwr o Lanfairfechan, yn mynd benben â'r ymgyrchydd a newyddiadurwr George Monbiot yn y ddadl ym Mhrifysgol Rhydychen.
Mae'r digwyddiad blynyddol wedi ei drefnu'n rhan o Gynhadledd Ffermio Rhydychen, ac mae'n denu siaradwyr o'r byd gwleidyddol, amaethyddol ac amgylcheddol.
Yn y gorffennol mae Mr Monbiot wedi galw ar fwy o bobl i fyw fel feganiaid oherwydd effaith ffermio anifeiliaid ar yr amgylchedd.
'Rwtsh llwyr'
Fe fydd Mr Jones a Mr Monbiot yn dadlau gosodiad: "Erbyn 2100, rydym yn credu y bydd bwyta cig yn rhywbeth oedd yn perthyn i'r gorffennol."
Cyn y digwyddiad, dywedodd Gareth Wyn Jones mai "cydbwysedd ydy'r allwedd wrth ymdrin â materion fel hyn".
"Dwi'n derbyn mai dewis personol ydy o i'r bobl 'ma sy'n dewis byw fel feganiaid, ond yng nghanol yr holl sôn am fake news ar hyn o bryd, mae 'na lot o glwydda' yn cael eu dweud am gynhyrchu bwyd, a pha fwydydd sy'n iachus.
"Er enghraifft, mae rhai pobl wedi bod yn dweud fod bwyta bacwn yn waeth na smocio a ballu - rwtsh llwyr ydy pethau fel hyn."
Ychwanegodd bod "addysg yn allweddol bwysig" wrth drafod y mater.
"Ydyn nhw'n sylweddoli fod y llysiau 'ma i gyd angen gwrtaith i dyfu? Ac mae hwnnw yn dod gan y gwartheg!
"Ac mae angen tanwydd ar gyfer y cerbydau i gynaeafu'r cnydau, ac mae hynny yn llawer mwy niweidiol i'r amgylchedd na ffermio anifeiliaid siŵr."
Dywedodd Mr Jones fod ei deulu wedi bod yn ffermio ar y Carneddau ers cenedlaethau, ac y byddai'n "amhosib" tyfu cnydau ar y tir.
"Mi fyddai'n disgwyl i George sôn am ba mor anghynaladwy ydy cynnyrch anifeiliaid hefyd, ond mi fyddai'n ei ateb drwy ddweud nad oes 'na unrhyw beth mwy cynaliadwy na gwlân dafad."
'Gwastraffu gormod'
Ychwanegodd: "Er hyn, mae'n bwysig i ni gydnabod ein bod ni wedi mynd yn gymdeithas sy'n gwastraffu llawer gormod o fwyd, ac mae 'na gost amgylcheddol o gynhyrchu bwyd rhad.
"Mae angen i ni barchu cig a bwyd yn gyffredinol, a gwneud hynny drwy fwyta bwydydd yn eu tymor, a dewis cynnyrch sy'n lleol i ni."
Mae George Monbiot yn gyfranydd cyson i bapur newydd y Guardian, ac mae ei erthyglau yn aml yn sôn am ei ddyheadau i weld mwy o bobl yn byw fel feganiaid., dolen allanol
Yn y gorffennol, mae wedi nodi ei bryderon am y tir sydd ei angen ar gyfer ffermio anifeiliaid o'i gymharu â thyfu llysiau.
Mae Cymru Fyw wedi gwneud cais am sylw gan Mr Monbiot cyn y ddadl.
Yn siarad ar y Post Cyntaf ddydd Iau, dywedodd Donna Thomas, sy'n aelod o fudiad Animal Aid ac yn cefnogi safbwynt George Monbiot, bod feganiaeth yn "defnyddio llai o dir, llai o ddŵr a llai o nwyon tŷ gwydr" na ffermio anifeiliaid.
Dywedodd hefyd bod "ffermio yn y wlad 'ma yn cynhyrchu llawer mwy o fethan na'r sector trafnidiaeth".
Ychwanegodd: "Efallai fod cig yn flasus ond mae ganddo ni fraint yn yr ardal orllewinol 'ma o'r byd da ni'n byw ynddi...
"Ond mae'n fraint i ni allu dewis be 'da ni isho fwyta."
Eleni, fe fydd Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig y DU, Michael Gove ymysg nifer o wleidyddion ac academyddion sy'n annerch y gynhadledd.
Gallwch glywed mwy am y ddadl ar fwletin amaeth Dei Tomos ar Radio Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2016