Bwyty figan yn gwrthod derbyn papur £5
- Cyhoeddwyd

Bwyty Voltaire ym Mangor sydd yn gwrthod derbyn y papur £5 newydd
Mae bwyty figan yng Ngwynedd wedi dweud eu bod nhw'n gwrthod derbyn y papur £5 newydd gan ei fod yn cynnwys cynnyrch anifeiliaid.
Fe ddywedodd perchennog bwyty Voltaire ym Mangor, Rachel Phoenix fod y penderfyniad o ddefnyddio cynnyrch anifeiliaid i gynhyrchu'r papur £5 yn gwneud iddi "deimlo'n sâl".
Fe ddywedodd Ms Phoenix ar ei thudalen Facebook fod "rhaid iddi sefyll yn gadarn" a bod cwsmeriaid wedi bod yn "gefnogol iawn" i'r penderfyniad.
Mae Banc Lloegr wedi cael ei feirniadu gan nifer o figaniaid, Siciaid a Hindŵiaid am ddefnyddio diferion o gynnyrch anifeiliaid ym mhroses cynhyrchu'r papur £5 newydd.
Mae Banc Lloegr wedi gwrthod dweud a ddylai busnesau gael eu gorfodi i dderbyn y papurau arian yma.