Cronfa £50m i helpu cwmnïau Cymru baratoi cyn Brexit

  • Cyhoeddwyd
Baneri Cymru a'r UE

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa gwerth £50m i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit.

Yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones bydd Cronfa Bontio'r UE yn "helpu i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau" ac yn berthnasol i'r meysydd sydd wedi eu datganoli.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cyngor i gwmnïau a mudiadau wrth i'r DU baratoi i adael yr UE.

Dywedodd yr AC Ceidwadol Mark Isherwood bod y cyhoeddiad yn "gam i'r cyfeiriad cywir" ond fe gyhuddodd Llywodraeth Cymru o fod "wedi'i pharlysu" mewn perthynas â Brexit.

Roedd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood eisoes wedi galw am gronfa gwerth £30m i helpu "lliniaru unrhyw sioc ôl-Brexit".

Bydd cronfa Llywodraeth Cymru hefyd yn helpu cwmnïau i barhau i ddenu dinasyddion o'r UE i weithio yng Nghymru, a bydd cefnogaeth benodol ar gyfer y diwydiant amaeth.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Bydd £10m ar gael yn syth a'r gweddill yn cael ei ryddhau yn ôl yr angen drwy'r broses o adael yr UE

Dywedodd Mr Jones: "Mae Brexit yn codi heriau a chyfleoedd gwahanol ar gyfer pob agwedd ar fywyd yng Nghymru - o'n busnesau lleol a'n prif gyflogwyr, i'n ffermwyr, ein hysbytai a'n prifysgolion.

"Mae'r gronfa wedi'i datblygu mewn partneriaeth â'n busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus a bydd yn darparu cymorth arloesol a phenodol a fydd yn eu helpu i oroesi, ac yn wir i ffynnu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

"Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i ymdopi â'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw.

"Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu atebion sy'n gweithio yng Nghymru, a byddwn ni'n parhau i gydweithio â phartneriaid i fanteisio ar bob cyfle."

Cymru 'ar ei hôl hi'

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru y bydd £10m ar gael yn syth.

Bydd gweddill yr arian yn cael ei ryddhau yn ôl yr angen drwy'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae canran o'r arian yn ganlyniad i addewid yng nghyllideb Llywodraeth y DU i neilltuo £3bn i baratoi ar gyfer Brexit.

Mae disgwyl i'r DU adael yr UE ym mis Mawrth 2019, a bydd trefniadau'r cyfnod pontio gael eu cyhoeddi nes ymlaen eleni.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi neilltuo £5m ychwanegol ar gyfer paratoadau Brexit fel rhan o gytundeb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru ar y gyllideb.

Dywedodd llefarydd Brexit y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood: "Mae hwn yn gam bach i'r cyfeiriad cywir ond yn anffodus i Gymru, ers y refferendwm, mae'r prif weinidog a'i lywodraeth wedi'i pharlysu, sydd wedi sicrhau bod ein gwlad gam ar ei hôl hi."