Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yng Nghastell-nedd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 56 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth dynes yng Nghastell-nedd.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Heol Talbot ychydig wedi 19:35 nos Wener yn dilyn adroddiad o "ddigwyddiad domestig".
Fe gafodd corff y ddynes 33 oed ei ddarganfod yn y tŷ.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa a'i fod yn eu helpu gyda'u hymholiadau.