Dau yn pledio'n euog mewn achos ymladd moch daear
- Cyhoeddwyd
Mae Llys Ynadon Llandudno wedi clywed manylion cyrch gan yr RSPCA wnaeth ddatgelu achos o ymladd moch daear anghyfreithlon a chreulondeb at anifeiliaid ar fferm ym Mlaenau Ffestiniog.
Mae dau fachgen 13 ac 17 oed ymhlith chwe diffynnydd sydd wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â digwyddiad ar fferm fis Chwefror y llynedd.
Fe fydd dau o'r diffynyddion yn cael eu dedfrydu maes o law ar ôl pledio'n euog i fod yn bresennol mewn gornest anifeiliaid anghyfreithlon.
Mae'r diffynyddion eraill yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Hyfforddi cŵn
Fe welodd y llys luniau fideo gafodd eu tynnu gan yr RSPCA yn ystod cyrch ar y fferm yn dangos yr hyn gafodd ei ddisgrifio fel ffeuau moch daear ffug.
Yn y lluniau, mae arolygydd yr RSPCA yn dweud ei bod yn debygol bod cŵn ifanc yn cael eu hyfforddi i fynd i'r afael â moch daear.
Cafodd llwynog ifanc ei ddarganfod mewn caets ac fe glywodd y llys mai'r bwriad oedd i'r cŵn ei larpio.
Honnodd yr RSPCA bod ail lwynog mewn caets yn cael ei frawychu gan ddaeargi'n cyfarth arno, a'u bod wedi dod o hyd i saith o benglogau allai fod yn rhai llwynogod neu foch daear.
Mae un o'r diffynyddion, Jordan Houlston, 24 oed o Landudno, yn cadw daeargwn ar gyfer helfeydd.
Mae o'n gwadu 10 o gyhuddiadau gan gynnwys cam-drin mochyn daear trwy ei gicio, cymryd rhan mewn gornest anifeiliaid, ac achosi i bedwar o gŵn ddioddef yn ddiangen trwy eu gorfodi i ymladd.
Mae David Thomas, 51, o Fferm Cwm Bowydd yn gwadu cyhuddiadau'n ymwneud â lles anifeiliaid gan gynnwys achosi dioddefaint diangen i ddau lwynog.
Mae Evan Bleddyn Thomas, ffermwr 52 oed o Gwm Bowydd, yn gwadu cadw eiddo ar gyfer cynnal gornest anifeiliaid.
Clywodd y llys nad oedd o wedi cymryd rhan yn y digwyddiad ar 5 Chwefror 2017, ond dywedodd cyfreithiwr yr erlyniad Tudur Owen y "dylai fod wedi gwneud rhywbeth ynglŷn â'r peth".
Mae bachgen 13 oed yn gwadu cymryd rhan yn yr hyn ddigwyddodd.
Ond mae bachgen 17 oed wedi cyfaddef bod yn bresennol mewn gornest anifeiliaid, ac fe blediodd Marc Wyn Morris, 26 oed o Flaenau Ffestiniog yn euog i'r un cyhuddiad.
Mae Mr Morris hefyd wedi pledio'n euog i anafu mochyn daear yn fwriadol, ac o achosi dioddefaint diangen i fochyn daear trwy ei orfodi i ymladd â chi.
Mae'r achos yn parhau.