Codi gwaharddiad siarad ar Aelod Cynulliad UKIP
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Cynulliad wedi codi'r gwaharddiad oedd yn atal un o Aelodau Cynulliad UKIP rhag siarad yn y Senedd, wedi sylwadau a wnaeth am hawliau pobl trawsryweddol fis diwethaf.
Ym mis Rhagfyr, rhybuddiodd Gareth Bennett y gallai cymdeithas fynd â'i phen iddi petai gormod o "newid o'r norm".
Ond ddydd Mercher fe ymddiheurodd Mr Bennett, gan ddweud bod yn ddrwg ganddo os oedd wedi achosi loes.
Derbyniodd y Llywydd, Elin Jones yr ymddiheuriad a dywedodd y dylai ACau wastad ddefnyddio iaith oedd ddim yn gwahaniaethu yn erbyn neb.
'Parchu awdurdod'
Dywedodd Mr Bennett, AC UKIP dros Ganol De Cymru: "Mae'n ddrwg gen i fod pobl wedi teimlo sarhad gan yr hyn a ddywedais i a hoffwn ei gwneud hi'n glir fy mod i'n parchu awdurdod y gadair.
"Fodd bynnag, rwyf yn cadw at fy safbwynt am y newidiadau arfaethedig i'r Bil Cydnabod Rhywedd."
Dwedodd Ms Jones: "Rwy'n derbyn eich ymddiheuriad, Gareth Bennett, a gallwch fod yn siŵr y byddaf wastad yn amddiffyn hawl unrhyw aelod yn y siambr i leisio safbwyntiau sy'n annymunol i aelodau eraill ac i eraill hefyd.
"Ond rhaid i bob aelod wneud hynny drwy ddefnyddio iaith seneddol ac anwahaniaethol ar bob achlysur."
Gwaharddiad
Roedd Mr Bennett yn siarad am gynnig Llywodraeth y DU i hwyluso'r broses o newid rhywedd yn gyfreithlon, pan wnaeth y sylwadau a arweiniodd at ei waharddiad.
Dywedodd: "Dim ond hyn a hyn o ymyrraeth o'r norm y gall unrhyw gymdeithas ei gymryd cyn i'r gymdeithas honno ddymchwel yn llwyr.
"Os byddwn ni'n parhau ar hyd y ffordd o apelio at elfennau mwyaf gwallgo'r mudiad trawsryweddol yna byddwn yn wynebu cymdeithas, o fewn amser byr iawn, fydd yn mynd â'i phen iddi."
Disgrifiodd Ms Jones ei eiriau fel rhai "arbennig o atgas tuag y gymuned drawsryweddol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2017