Hamilton a Farage yn anghytuno am ail refferendwm Brexit

  • Cyhoeddwyd
Neil Hamilton
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Neil Hamilton nad ydy cynnal ail refferendwm yn un o bolisïau UKIP

Mae UKIP yng Nghymru wedi gwrthod ystyried ail refferendwm ar aelodaeth y DU o'r UE, er i Nigel Farage ddweud ei fod yn agos i dderbyn y syniad.

Dywedodd Mr Farage - cyn-arweinydd y blaid ar lefel Brydeinig - y gallai gefnogi ail refferendwm i roi terfyn ar "gwyno'r ymgyrchwyr gwrth-Brexit".

Ond dywedodd Neil Hamilton, sy'n arwain y blaid yng Nghymru, mai "bod yn ddrygionus mae Nigel".

Ychwanegodd ei fod yn cytuno gyda Mr Farage y byddai'r etholwyr yn cefnogi Brexit gyda "chanlyniad hyd yn oed cryfach" pe bai ail refferendwm.

Dywedodd arweinydd presennol y blaid ar draws y DU, Henry Bolton, bod polisi'r blaid "heb newid" a'u bod yn "gwrthwynebu ail refferendwm".

'Cwyno a swnian'

Yng Nghymru fe bleidleisiodd 52.5% o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.

Ar raglen The Wright Stuff ar Channel 5 dywedodd Mr Farage na fyddai ymgyrchwyr dros aros yn yr UE, fel Nick Clegg a Tony Blair, "fyth yn ildio".

"Fe fyddan nhw'n parhau i gwyno a swnian trwy'r holl broses," meddai.

"Felly efallai... fy mod i'n cyrraedd y pwynt o ystyried y dylen ni gael ail refferendwm ar ein haelodaeth o'r UE... a rhoi taw ar yr holl beth."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Ond dywedodd Mr Hamilton nad ydy UKIP yn cefnogi refferendwm arall.

"Dwi'n meddwl mai bod yn ddrygionus mae Nigel i ddweud y gwir," meddai.

"Fy marn i yw bod y bobl wedi pleidleisio ac mae rhaid parchu'r canlyniad. Mae'r ymdrechion i danseilio'r broses o adael er mwyn gwireddu ewyllys y bobl eu hunain yn annemocrataidd."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai ail refferendwm hefyd yn adlewyrchu "ewyllys y bobl", ymatebodd: "Byddai, a byddai trydydd a phedwerydd a phumed a chweched [refferendwm] ad infinitum.

"Felly, sut mae stopio'r broses yma? Mae'n rhaid gwneud penderfyniad ar ryw bwynt a dwi ddim yn gwybod pam y dylai hynny fynd ymhellach na'r refferendwm diwethaf."

Mae disgwyl i'r DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019.