Dyn 'wedi gorfod mygu ei fam-gu ddwywaith' cyn iddi farw
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod cyn-filwr o Abergwaun wedi cyfaddef bod ei fam-gu wedi ceisio amddiffyn ei hun wrth iddo ei mygu i farwolaeth.
Mae Barry Rogers, 33, a'i fam Penelope John, 50, yn gwadu llofruddio Betty Guy, oedd yn 84 oed pan fu farw ym mis Tachwedd 2011.
Mae Mrs John wedi'i chyhuddo o roi cyfuniad o dabledi a wisgi i'w mam, cyn i Mr Rogers ei mygu gyda chlustog.
Dywedodd cariad Mr Rogers ar y pryd, Sandra Adams, ei fod wedi cyfaddef iddo ladd ei fam-gu cyn i'r heddlu arestio'r ddau ddiffynnydd.
Dywedodd Miss Adams wrth Lys y Goron Abertawe i'r cyfaddefiad ddigwydd wrth i'r ddau rannu cyfrinachau am eu hunain er mwyn rhoi sail gadarn i'w perthynas.
'Ymladd yn ôl'
Pan ddywedodd Mr Rogers ei fod wedi lladd rhywun, roedd Miss Adams wedi cymryd ei fod yn cyfeirio at ei gyfnod yn gwasanaethu gyda'r fyddin yn Irac.
Ond fe atebodd "mai ei fam-gu roedd wedi ei lladd".
Dywedodd bod Mr Rogers wedi dweud wrthi am alwad ffôn gan ei gam yn dweud "mae'n bryd" cyn iddo yrru o Wlad yr Haf i Sir Benfro i "ffarwelio" â'i fam-gu.
"Dywedodd... eu bod wedi rhoi'r feddyginiaeth iddi roedd hi ei angen," meddai.
"Fe oedodd am ychydig i'r feddyginiaeth weithio ac yna fe roddodd glustog ar ei hwyneb a'i mygu.
"Roedd y fam-gu yn ymladd yn ymladd yn ôl ac fe stopiodd. Fe gafodd wydriad o wisgi ac yna aeth yn ôl ati a rhoi'r glustog ar ei hwyneb am yr eildro.
"Bu farw wedi hynny."
Ychwanegodd Miss Adams: "Dywedodd bod ei fam-gu yn marw o ganser a'i bod hi'n bryd iddi fynd."
Dywedodd bod yr angladd wedi ei gynnal ar frys oherwydd awydd Mr Rogers a Mrs John i amlosgi'r corff, yn groes i ddymuniad perthnasau eraill i'w gladdu.
Clywodd y llys bod Mr Rogers a Miss Adams yn yr ysgol gynradd gyda'i gilydd ac wedi cychwyn perthynas trwy wefan Facebook yn 2015.
Daeth y berthynas i ben ar ôl 10 mis ac fe aeth Miss Adams at yr heddlu.
'Rhaffu celwyddau'
Dywedodd wrth y llys bod Mr Rogers yn arfer dweud wrthi ei fod wedi lladd pobl tra'i fod yn y fyddin, a'i bod wedi dod i gredu ei fod yn "rhaffu celwyddau ac yn chwilio am sylw".
Ychwanegodd ei fod yn gofidio o amgylch dyddiau pen-blwydd ei nain a dyddiad ei marwolaeth.
Dywedodd mam Miss Adams, Linda Pritchard-Jones, bod Mr Rogers wedi cyfaddef iddi hithau hefyd ei fod wedi mygu ei fam-gu.
"Dywedodd bod canser ar ei fam-gu a phan ddaeth hi'n bryd roedd ei nain wedi gofyn wrtho am help i ddod â'i bywyd i ben," meddai.
Roedd o wedi dweud wrthi fod yn rhaid iddo fygu Mrs Guy ddwywaith cyn iddi farw.
"Ro'n i'n teimlo mor anghysurus a lletchwith," dywedodd.
Clywodd y llys bod Mr Rogers wedi gwneud cyfaddefiad tebyg i chwaer Sandra Adams yn ystod parti pen-blwydd nith mewn canolfan chwarae plant.
Dywedodd Tracey Adams: "Dwedes i liciwn i petai fy mam-gu a fy nhad-cu yno.
"Dywedodd yntau 'Fe wnes i helpu fy mam-gu ar ei ffordd gyda chlustog. Liciwn i petai hithau yma heddiw hefyd'."
Mae'r achos yn parhau.