Heddlu'n ymchwilio i 'ymosodiad difrifol' yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
ymosodiadFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ifan Owens yn cael triniaeth yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ymosodiad difrifol ar Y Stryd Uchel, Aberystwyth yn ystod oriau mân fore Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r stryd toc wedi 02:00 wedi adroddiadau fod dyn yn anymwybodol.

Mae Ifan Owens, myfyriwr ail flwyddyn, bellach yn cael triniaeth yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd i anafiadau difrifol.

Cadarnhaodd yr heddlu fod tri dyn 20, 23 a 25 oed wedi eu harestio ar gyhuddiad o achosi anafiadau difrifol bwriadol a'u bod nhw'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cael galwad am 02:17 fore Sul, fod dyn yn anymwybodol ar Y Stryd Uchel yn Aberystwyth.

Cafodd Mr Owens, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, ei gludo i Ysbyty Bronglais, cyn cael ei drosglwyddo i'r Ysbyty Athrofaol yn un o hofrenyddion y gwasanaeth Chwilio ac Achub.

Mae'r heddlu'n apelio ar i unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 12:45 a 02:20 fore Sul i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu yn Aberystwyth ar 101, gan ddyfynu'r cyfeirnod 402.