Cwmni teithio yn creu 175 o swyddi yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
tuiFfynhonnell y llun, Reuters

Mae cwmni teithio TUI ar fin creu 175 o swyddi yn Abertawe ar ôl cael grant o £525,000 gan Lywodraeth Cymru.

Eisoes mae cwmni TUI â chanolfan gwasanaethau cwsmseriaid yn y ddinas, ac mae nifer y staff sy'n gweithio yno wedi codi o 48 i fwy na 280 yn y tair blynedd diwethaf.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y grant Cyllid Busnes yn helpu sicrhau bod swyddi gwasanaethau cwsmeriaid y cwmni yn aros yn y DU.

Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates mae'r sector yn un "byrlymus sy'n tyfu" yng Nghymru.

Fe agorodd TUI swyddfa yn Abertawe yn 2015 ac mae'r ganolfan yn mynd "o nerth i nerth" yn ôl Helen Caron, cyfarwyddwr dosbarthu a mordeithiau TUI yn y DU ac Iwerddon.

Dywedodd bod y penderfyniad i ehangu yn Abertawe wedi dilyn "ymchwil, meddwl a thrafod manwl a dwys am ddyfodol ein busnes".

Dywedodd Mr Skates: "Mae ein gwasanaethau i gwsmeriaid yn sector byrlymus sy'n tyfu ac yn cyflogi rhagor na 30,000 o bobl mewn rhagor na 200 o ganolfannau ledled Cymru."

Yn 2015, fe wnaeth TUI lansio strategaeth yn canolbwyntio ar leihau effaith gwyliau ar yr amgylchedd.

Mae'n fwriad gan TUI erbyn 2020 i fod y cwmni awyrennau mwyaf carbon effeithiol yn Ewrop.