Cyhoeddi carfan Merched Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
merched cymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Prif Hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Rowland Phillips wedi cynnwys 36 yn y garfan, sy'n cynnwys 10 chwaraewr sydd heb ennill cap rhyngwladol.

Yn ogystal â'r garfan mae chwe merch wedi'i henwi fel rhan o dîm datblygu fydd yn ymarfer gyda'r garfan yn ystod y gystadleuaeth.

Dywedodd Phillips wrth son am y chwaraewyr newydd eu bod "wedi dod ag awch ac egni i'r sesiynau ymarfer, sy'n heintus".

"Mae teimlad ffres i'r garfan, a theimlad ein bod yn adeiladu rhywbeth tymor hir".

'Potensial'

Y 10 chwaraewr newydd yw Natalia John, Amy Thomas, Alecs Donovan a Cara Hope o'r Gweilch; Beth Lewis, Jade Knight, Lisa Neumann ac Angharad de Smet o'r Scarlets; Anwen Prysor a Hannah Buck o'r Gleision.

Ychwanegodd Phillips: "Mae'r chwaraewyr iau wedi bod yn chwarae am lawer hirach erbyn hyn.

"Ry'n ni'n gweld merched 18 oed sydd wedi chwarae am chwe, saith mlynedd... mae'n adlewyrchu twf y gêm yng Nghymru.

"Y peth cyffrous i ni fel hyfforddwyr yw ein bod ni'n gweld chwaraewyr y tu allan i'r garfan sydd â photensial mawr.

"Mae'r ieuenctid yna yn ein galluogi i gynllunio ymlaen llaw wrth i ni adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd 2021."

Carfan Chwe Gwlad Merched Cymru:

Blaenwyr: Alisha Butchers (Scarlets), Amy Evans (Gweilch), Amy Thomas (Gweilch), Awen Prysor* (Gleision), Beth Lewis* (Scarlets), Cara Hope* (Gweilch), Caryl Thomas (Scarlets), Carys Phillips (c) (Gweilch), Cerys Hale (Dreigiau), Gwenllian Pyrs (RGC), Kelsey Jones (Gweilch), Meg York (Dreigiau), Mel Clay (Gweilch), Natalia John* (Gweilch), Nia Elen Davies (Scarlets), Shona Powell-Hughes (Gweilch), Sioned Harries (Scarlets), Siwan Lillicrap (Gweilch);

Olwyr: Alecs Donovan* (Gweilch), Angharad De Smet (Scarlets), Elinor Snowsill (Dreigiau), Ffion Lewis* (Scarlets), Gemma Rowland (Dreigiau), Hannah Bluck* (Gleision), Hannah Jones (Scarlets), Jade Knight* (Scarlets), Jasmine Joyce (Scarlets), Jessica Kavanagh-Williams (RGC), Jodie Evans (Scarlets), Kerin Lake (Gweilch), Lisa Neumann (Scarlets), Lleucu George (Scarlets), Rebecca De Filippo (Dreigiau), Rhiannon Nokes (Gweilch), Rhiannon Parker (Gleision), Robyn Wilkins (Gweilch).

Chwaraewyr Datblygu: Amy Morgan (Scarlets), India Berbillion (Dreigiau), Katie Jenkins (Gleision), Katie Thicker (Scarlets), Liliana Podpadec (Dreigiau), Teleri Davies (RGC).

* = chwaraewyr heb gap