'Croeso' gan staff i brif weithredwr newydd yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Cwestiynau i ddod i adnabod Prif Weithredwr newydd yr Urdd yn well
Does yna "ddim unrhyw achosion o ddrwgdeimlad [wedi bod] ymhlith y staff a'r gwirfoddolwyr" ers i Siân Lewis ddechrau ei swydd fel prif weithredwr newydd yr Urdd, meddai.
Ers 15 diwrnod mae'r ferch o Gaerdydd wedi ymgymryd â'r rôl, a hynny ar ôl i'r prif weithredwr blaenorol, Sioned Hughes, adael yn ddisymwth ym mis Gorffennaf y llynedd.
Roedd hi'n ymddangos bod gan rai ddiffyg ffydd yng ngallu Ms Hughes ac yn pryderu am reolaeth yr Urdd.
Dywedodd Siân Lewis wrth Cymru Fyw bod y croeso wedi bod yn "gynnes" a bod gan y rhai sy'n gweithio i'r mudiad weledigaeth glir.
Teithio Cymru i wrando
"Mae'n bwysig cydnabod falle bod yna broblem wedi bod llynedd," meddai.
"Ond mae'n bwysig hefyd i ni gydnabod bod pob prif weithredwr sydd wedi gweithio i'r Urdd wedi cyfrannu yn sicr at roi yr Urdd lle mae heddiw, sef mewn lle cadarn dros ben.
"Mae gan yr Urdd drosiant o £10m, 283 o staff, bron i 54,000 o aelodaeth ac yn ffynnu ar bob maes mae'n weithredol ynddo."

Bydd Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanelwedd
Gweledigaeth cyn arweinydd Menter Caerdydd a Bro Morgannwg yw bod yr Urdd yn "ganolog i fywydau plant a phobl ifanc Cymru heddiw" ac mae'n bwriadu teithio ledled Cymru er mwyn gwrando ar y rhai sy'n ymwneud â'r mudiad ac aelodau er mwyn deall eu hanghenion.
Ond mae hi'n anghytuno bod yr Urdd, sy'n dathlu canmlwyddiant yn 2022, yn sefydliad ar gyfer y dosbarth canol, gwyn Cymraeg yn unig, gan roi enghraifft o gystadleuaeth rygbi cenedlaethol sydd yn ei hail flwyddyn eleni.
"Mae 350 o dimau yn cystadlu yn hwnna, 150 o ysgolion uwchradd, 4,500 o bobl ifanc. Yn sicr dydy hwnna ddim yn adlewyrchiad o wasanaeth dosbarth canol sydd yn ynysig."
Chwalu'r myth
Mae hi'n cydnabod bod y ddelwedd yn bodoli gan rai ac yn dweud mai ei rôl hi fydd newid hynny.
"Dwi'n gwybod bod o ddim yn wir ond mae isio i ni sicrhau bod pobl o'r tu allan yn gallu gweld hynny."

Dywedodd Ms Lewis bod cynlluniau "cyffrous" ar y gweill ar gyfer gwersylloedd yr Urdd
Dyw Ms Lewis, fu'n gweithio yn y 90au fel Swyddog Datblygu'r Urdd yng Nghaerdydd a'r Fro, chwaith ddim yn derbyn y feirniadaeth mai rhywbeth i blant yw'r Urdd, tra bod pobl ifanc yn dewis mudiad y Ffermwyr Ifanc.
Mae wedi ei "synnu... ers cychwyn fy swydd cymaint mae'r Urdd yn gwneud ar gyfer yr oedran 16 plus" gan restru'r gweithgareddau meysydd awyr agored, celfyddydau, Bwrdd Syr Ifan a phrentisiaethau.
Ei gobaith y flwyddyn nesaf yw cynnig mwy o brentisiaethau yn y maes ieuenctid ac yng ngwersylloedd y mudiad.
Gobeithion i'r dyfodol
Mae ei gŵr yn gweithio fel uwch swyddog i'r Urdd yn y maes chwaraeon ond dyw sefyllfa felly "ddim yn anghyffredin" mewn sawl maes heddiw meddai.
"Mynd 'nôl i'r cyfnod pan o'n i yn gweithio efo'r Urdd yn y 90au, oedd fy ngŵr i yn gweithio bryd hynny hefyd.
"Dwi'n parchu'r gwaith mae ngŵr i yn gwneud yn yr adran chwaraeon, ond yn parchu'r gwaith sydd yn cael ei wneud ar draws y maes gan gyfarwyddwyr yn y meysydd eraill hefyd."
Wrth edrych i'r dyfodol mae eisiau cynyddu apêl yr eisteddfod gan edrych ar gyflwyno cystadlaethau newydd a chwilio am bartneriaethau newydd.

Byddai'r prif weithredwr newydd yn hoffi gweld swyddogion datblygu ym mhob sir yng Nghymru
Dywedodd bod datblygiadau "cyffrous" ar y gweill gyda'r gwersylloedd hefyd, a'i bod eisiau gweld os yw'n bosib cael staff mewn ardaloedd ar draws y wlad.
"Be dwi isio gweld ydy cysondeb yn ein gwasanaethau ni ar draws y wlad.
"Bydden ni yn ddelfrydol yn licio cael swyddog datblygu ym mhob sir ond hefyd swyddogion ieuenctid a swyddogion chwaraeon.
"Ond mae'n rhaid i ni gydweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod hynny yn bwysig ac hefyd edrych ar ffynonellau arian er mwyn gwireddu'r freuddwyd yna."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2017