'Dim rhagor o Gymraeg ar basborts' yn dilyn Brexit

  • Cyhoeddwyd
Pasbort

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd pasborts yn cael eu darparu'n ddwyieithog yn dilyn Brexit.

Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd y llywodraeth y byddai lliw pasborts Prydeinig yn newid o goch i las wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond yn San Steffan ddydd Mawrth dywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Caroline Nokes na fyddai unrhyw Gymraeg ychwanegol ar y dogfennau.

Ar hyn o bryd mae rhywfaint o Gymraeg wedi'i chynnwys ar y pasbort, gan gynnwys ar y dudalen bywgraffiad.

Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae rhywfaint o eiriau Cymraeg ar y pasbort Prydeinig

Mewn cwestiwn yn Nhŷ'r Cyffredin gofynnodd AS Llafur De Clwyd, Susan Elan Jones a fyddai'r pasborts newydd yn cael eu darparu'n ddwyieithog i bobl oedd yn byw yng Nghymru.

Yn ei hymateb dywedodd Ms Nokes: "Mae Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi yn cydymffurfio â'r Cynllun Iaith Gymraeg, gan ddarparu gwasanaethau Cymraeg yng Nghymru ar gyfer gwneud cais am basbort os oes cais i wneud hynny.

"Mae'r pasbort presennol yn cynnwys cyfieithiadau Cymraeg ar dudalen gyntaf y pasbort ac o'r penawdau ar dudalen y manylion bywgraffiad. Mae Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi yn bwriadu parhau i ddarparu cyfieithiad Cymraeg o'r darnau hyn o fewn dyluniad newydd y pasbort.

"Ar hyn o bryd does dim cynlluniau i gyfieithu rhannau eraill o'r pasbort i'r Gymraeg."