Cannoedd heb drydan dros Gymru wedi gwyntoedd cryfion

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr Trydan

Roedd dros 1,000 o dai heb drydan fore Iau ar ôl i wyntoedd cryfion effeithio ar gyflenwadau yng Nghymru.

Mae Western Power Distribution, dolen allanol yn dweud bod cartrefi yn ne ddwyrain a de orllewin y wlad wedi eu heffeithio waethaf, a bod nifer yr adeiladau heb gyflenwad trydan yn is na 200 erbyn 13:00.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd, dolen allanol gyhoeddi rhybudd melyn "byddwch yn barod" ar gyfer Cymru gyfan rhwng 02:55 a 09:00.

Mae rhybudd y gallai gwyntoedd cryfion achosi oedi i drafnidiaeth ac y gallai rhai adeiladau gael eu difrodi.

Gwyntoedd 93mya

Roedd rhybudd y galli'r gwyntoedd amharu ar gyflenwadau ynni a gwasanaethau ffôn symudol.

Mae disgwyl hefyd y bydd llanw uchel yn taro arfordir ardaloedd y gorllewin.

Cafodd gwyntoedd o 93mya eu cofnodi dros nos yng Nghapel Curig, Gwynedd.

Am gyfnod bu'n rhaid i gwmni Trenau Arriva Cymru gludo teithwyr trên ar fysiau rhwng Machynlleth a'r Amwythig gan fod y lein wedi cau.

Roedd hynny oherwydd gwrthdrawiad rhwng trên nwyddau a dau gwt oedd wedi cael eu chwythu ar y lein gan y gwynt.

Mae llefarydd ar ran Network Rail wedi apelio ar bobl sy'n byw ar bwys rheilffyrdd i gymryd camau i atal eitemau fel trampolinau, cytiau a phebyll rhag cael eu chwythu o'u gerddi gan wyntoedd cryfion.