Atal gemau cynghrair bêl-droed merched wedi ffrae
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi atal unrhyw gemau rhag cael eu chwarae mewn cynghrair merched yn y gogledd yn dilyn ffrae dros adael i un tîm gystadlu.
Roedd CPD Merched Y Rhyl wedi gobeithio cyflwyno tîm yng Nghynghrair Bêl-droed Merched Gogledd Cymru, fel ffordd o ddatblygu rhagor o chwaraewyr.
Ond gan fod tîm cyntaf y clwb eisoes yn chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru fe wrthododd cynghrair y gogledd ganiatáu i'r ail dîm ymuno, oherwydd pryder y gallai'r ddau dîm fod yn yr un gynghrair yn y dyfodol.
Dywedodd CBDC na fyddai unrhyw gemau nawr yn cael eu chwarae nes i gynghrair merched y gogledd ddilyn rheolau'r gymdeithas.
'Blin a siomedig'
Yn dilyn penderfyniad gwreiddiol cynghrair merched y gogledd fe wnaeth CPD Merched Y Rhyl apelio, ac fe wnaeth CBDC ddyfarnu o'u plaid.
Ond mae'r gynghrair wedi parhau i wrthod gadael iddyn nhw gyflwyno tîm, a threfnu gemau iddynt, gan olygu bod CBDC bellach wedi atal y gynghrair gyfan o 12 tîm rhag chwarae nes bod y mater yn cael ei ddatrys.
Dywedodd llefarydd ar ran CBDC: "Fydd dim gemau yn cael eu chwarae yng Nghynghrair Merched Gogledd Cymru nes i'r gynghrair gydymffurfio a rheolau a rheoliadau Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Mae CBDC a CBAGC (Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru) yn cefnogi Rhyl, sydd wedi ennill apeliadau ac yn gymwys i ddechrau chwarae yn syth. Fydd dim gemau cynghrair yn cael eu chwarae nes i'r sefyllfa gael ei datrys."
Dywedodd rheolwr Merched Y Rhyl, Tom Jamieson fod ei chwaraewyr yn teimlo'n rhwystredig ac eisiau chwarae mewn cynghrair.
"Dwi'n siomedig fod o wedi dod i hyn," meddai, gan ddweud ei fod yn gobeithio am ddatrysiad cyn gynted â phosib.
"Mae'r genod yn flin ac yn siomedig ond maen nhw wedi sticio gyda'i gilydd. Maen nhw dal yn frwdfrydig - fe wnaeth 16 ddod i'r ymarfer neithiwr."
Mae Cynghrair Bêl-droed Merched Gogledd Cymru wedi dweud yn y gorffennol fod ganddyn nhw bryder am roi ail dîm yn eu cynghrair nhw, gan y byddai hynny'n creu trafferthion petai tîm cyntaf Y Rhyl yn disgyn o'r Uwch Gynghrair.
Yn lle hynny maen nhw wedi galw am sefydlu cynghrair ddatblygu yn benodol ar gyfer ail dimau, fyddai ar wahân i'r cynghreiriau arferol.