Pwyllgor yn 'rhwystredig' gydag absenoldeb Alun Cairns
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd pwyllgor Cynulliad wedi dweud fod aelodau'n teimlo'n rhwystredig nad yw Ysgrifennydd Cymru wedi ymddangos o'u blaen.
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas, bod angen i ACau drafod "materion sy'n hanfodol i lywodraethu a pherfformiad Cymru" gydag Alun Cairns.
Dywed fod y pwyllgor wedi awgrymu nifer o amseroedd posibl ers Mai 2016, ar ôl i Mr Cairns gael ei benodi ym mis Mawrth y flwyddyn honno.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud fod gweinidogion Cymru mewn sefyllfa well i roi tystiolaeth.
Mae'r Pwyllgor Cyllid hefyd yn dweud eu bod wedi rhoi'r opsiynau i Mr Cairns ymddangos drwy gysylltiad fideo os oedd hynny'n fwy cyfleus iddo.
Dywedodd Mr Thomas, sy'n AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, mewn datganiad: "Mae'r pwyllgor hwn yn rhwystredig ac yn siomedig o amheuaeth barhaus Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, i ymddangos ger ein bron ar faterion sy'n hanfodol i lywodraethu a pherfformiad Cymru.
"Mae craffu ac atebolrwydd trylwyr yn rhannau hanfodol o bortffolio unrhyw weinidog, waeth beth fo'r sefydliad y maent yn eistedd ynddi."
Effeithio ar bob person
Dywedodd Mr Thomas fod y Pwyllgor Cyllid "yn ystyried materion sy'n effeithio ar bob person yng Nghymru", gan gynnwys datganoli pwerau codi treth yn hwyrach eleni.
Ychwanegodd Mr Thomas ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i Mr Cairns ymddangos ger bron y pwyllgor.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru bob amser yn hapus i ymgysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar feysydd polisi priodol.
"Prif ffocws Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yw craffu ar feysydd datganoledig lle mae gweinidogion Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa briodol i roi tystiolaeth."