Rhybudd am rew a thywydd garw

  • Cyhoeddwyd
mapFfynhonnell y llun, Swydfa Dywydd/Getty Images

Mae gyrwyr ledled Cymru wedi cael cyngor i gymryd gofal ychwanegol wrth i'r wlad brofi cyfnod o dywydd eithafol.

Mae'r rhybudd melyn am rew wedi bod mewn grym gan y Swyddfa Dywydd ers 19:00 nos Iau, ac mewn lle tan 11:00 fore Gwener, maen nhw hefyd wedi darogan glaw trwm, cenllysg ac eira ar diroedd uchel ar draws rhannau o Gymru a gorllewin Lloegr.

Gallai'r tywydd gwael arwain at amodau gyrru anodd mewn mannau, a gall hynny olygu amseroedd teithio hirach.

Fe gafodd y gwasanaethau rheilffyrdd yng nghanolbarth a gogledd Cymru eu heffeithio ddydd Iau, ar ôl i wrthrychau lanio ar y traciau yn dilyn y gwyntoedd uchel.

Fe darodd trên nwyddau ddwy sied, a oedd wedi glanio ar y trac rhwng Y Drenewydd a'r Trallwng ym Mhowys.

Dywedodd Western Power fod y cyflenwad trydan yn Ne Cymru yn ôl i'r "lefelau arferol", wedi i 206 o gartrefi ledled Cymru golli pŵer.

Mae'r rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd yn parhau mewn grym tan 11:00 fore Gwener.