Croesawu'r Alban yng Nghyfres yr Hydref yn 2018

  • Cyhoeddwyd
Principality StadiumFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cymru yn wynebu'r Alban ar 3 Tachwedd

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi mai'r Alban fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn 2018.

Fel rheol timau o hemisffer y de neu o ail ddosbarth hemisffer y gogledd sy'n cymryd rhan yn y gyfres pedair gêm gafodd ei sefydlu 17 o flynyddoedd yn ôl.

Fe fydd Cymru a'r Alban yn cystadlu am dlws newydd Cwpan Doddie Weir ar 3 Tachwedd.

Yn ystod penwythnos y gêm fe fydd yna nifer o ddigwyddiadau i godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Doddie Weir.

Ffynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Doddy Weir ennill 61 o gapiau dros yr Alban

Mae cyn-chwaraerwr yr Alban a'r Llewod yn dioddef o glefyd niwronau motor.

O ran Cyfres yr Hydref mae Cymru yn y gorffennol wedi wynebu Awstralia 12 gwaith, Seland Newydd 10, De Affrica wyth gwaith a'r Ariannin pum gwaith.

Maen nhw hefyd wedi chwarae yn erbyn Fiji, Rwmania, Canada, Samoa, Tonga, Japan a Georgia.