Y Cymry'n curo'r cewri
- Cyhoeddwyd
Dafydd yn erbyn Goliath. Dyna ydy maint yr her sy'n wynebu pêl-droedwyr Casnewydd o'r Ail Adran y penwythnos yma wrth iddyn nhw herio Tottenham Hotspur, un o geffylau blaen yr Uwch Gynghrair ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.
Mae 'na dipyn o her yn wynebu Caerdydd o'r Bencampwriaeth hefyd wrth iddyn nhw groesawu Manchester City sydd ar frig yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.
Fydd yna sioc neu ddwy? Wedi'r cwbl, mae gan dimau Cymru record anrhydeddus o guro'r cewri yng nghwpan FA Lloegr dros y blynyddoedd...
Aberdâr Athletic 1-0 Luton Town (1926)
Roedd Aberdâr yn aelodau o Gynghrair Lloegr rhwng 1921 a 1927. Yn 1926 fe gyrhaeddodd Aberdâr drydedd rownd Cwpan yr FA, drwy guro Bristol Rovers 4-1 yn y rownd gyntaf a Luton Town 1-0 yn yr ail rownd.
Colli wnaeth Aberdâr yn y drydedd rownd yn erbyn Newcastle United, ac fe adawodd Aberdâr Cynghrair Lloegr y flwyddyn ganlynol.
Abertawe 2-1 Lerpwl (1964)
Mae Abertawe wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ddwywaith. Yn 1926 fe gurodd Abertawe Arsenal 2-1 yn y chwarteri cyn mynd 'mlaen i golli 3-0 yn erbyn Bolton.
Ond yn 1964 fe enillodd Abertawe 0 2-1 yn erbyn Lerpwl yn Anfield i gyrraedd y rownd gynderfynol. Roedd tîm Lerpwl yn cynnwys yr ymosodwyr enwog Roger Hunt ac Ian St John, ac fe enillon nhw bencampwriaeth yr Adran Gynaf y tymor hwnnw. Collodd Abertawe o 2-1 yn erbyn Preston North End yn Villa Park yn y rownd gynderfynol.
Caerdydd 2-1 Leeds United (2002)
Mae Caerdydd wedi bod yn y rownd derfynol dair gwaith gan godi'r cwpan yn erbyn Arsenal yn 1927. Colli wnaeth yr Adar Gleision yn Wembley yn 1925 yn erbyn Sheffield United a 2008 yn erbyn Portsmouth.
Ond rhwng y ddau gyfnod llewyrchus rheiny roedd yn rhaid i Gaerdydd frwydro yn galed i wneud marc yn y gystadleuaeth. Ymhlith y canlyniadau cofiadwy yn y cyfnod hwn oedd y fuddugoliaeth yn erbyn Leeds United ym Mharc Ninian yn Ionawr 2002. Ar y pryd roedd Leeds yn chwarae yng Nghwpan UEFA, gyda gôl-geidwad Lloegr, Nigel Martyn a'r ymosodwyr Robbie Keane a Mark Viduka yn eu plith.
Caernarfon 2-1 York City (1987)
Roedd Caernarfon yn chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr pan wnaethon nhw gyrraedd trydedd rownd Cwpan Fa Lloegr yn 1987. John King oedd y rheolwr ar y pryd, gŵr ddaeth a llwyddiant mawr i Tranmere yn ddiweddarach.
Roedd yna fuddugoliaeth i'r Cofis yn erbyn Stockport County (o'r bedwaredd adran) yn y rownd gyntaf cyn iddyn guro York City (o'r drydedd adran) yn yr ail rownd. Barnsley (o'r ail adran) oedd y gwrthwynebwyr yn y drydedd rownd.
Er gwaetha'r gêm gyfartal ar yr Oval fe gollodd y Caneris y gêm ail-chwarae yn Oakwell o gôl i ddim.
Casnewydd 2-1 Leeds United (2017)
Cyrraedd y bumed rownd yn 1949 yw'r pellaf mae Casnewydd wedi mynd yng Nghwpan FA Lloegr hyd yma. Ond roedd y fuddugoliaeth i'r tîm o'r Ail Adran yn erbyn Leeds o'r Bencampwriaeth yn y drydedd rownd eleni ymhlith y mwyaf cofiadwy.
Y wobr wedi'r fuddugoliaeth o ddwy gôl i un ydy wynebu Tottenham Hotpsur a'r dasg o drio cadw ymosodwr Lloegr, Harry Kane yn dawel.
Merthyr Tudful 3-1 Bristol Rovers (1947)
Fe gyrhaeddodd Merthyr ail rownd Cwpan yr FA ar bump achlysur rhwng 1947 ac 1991.
Daeth eu buddugoliaeth fwyaf nodedig yn 1947 pan wanethon nhw ennill o 3-1 gartref yn erbyn Bristol Rovers.
Y Rhyl 3-1 Notts County (1957)
Yn 1957 fe enillodd Y Rhyl 3-1 yn erbyn Notts County oddi cartref ym Meadow Lane yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA. Roedden nhw wedi ennill yn erbyn Scarborough a Bishop Auckland yn y ddwy rownd gyntaf, ond roedd curo Notts County o ail adran Lloegr yn dipyn o gamp ar y pryd. Collodd Y Rhyl oddi cartref yn erbyn Bristol City yn y bedwaredd rownd.
Wrecsam 2-1 Arsenal (1992)
Mae Wrecsam wedi cyrraedd rownd wyth olaf y gwpan dair gwaith, yn 1974, 1978 ac yn 1997. Ond mae'n siŵr mai'r fuddugoliaeth fwyaf cofiadwy oedd honno yn erbyn Arsenal yn y drydedd rownd yn 1992.
Arsenal oedd pencampwyr Lloegr ar y pryd ac roedd Wrecsam yng ngwaelodion y bedwaredd adran. Gydag wyth munud i fynd roedd Arsenal ar y blaen, ond fe sgoriodd Mickey Thomas gyda tharan o gic rydd, cyn i Steve Watkin sgorio'r gôl sy'n achosi hunllefau i gefnogwyr y Gunners hyd heddiw.