Ŵyr Betty Guy: 'Dweud celwydd er mwyn cael cydymdeimlad'

  • Cyhoeddwyd
Betty GuyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Betty Guy ym mis Tachwedd 2011

Mae rheithgor wedi clywed mai dweud celwydd er mwyn cael cydymdeimlad oedd cyn-filwr pan ddywedodd wrth gyn-gariadon ei fod wedi lladd ei fam-gu.

Mae Barry Rogers, 33 o Abergwaun, a'i fam Penelope John, 50 o Landudoch, yn gwadu llofruddio Betty Guy, oedd yn 84 ac o Johnston, Hwlffordd.

Cafodd y ddau eu holi ar amheuaeth o fod â rhan yn ei marwolaeth ar ôl i un o gyn-bartneriaid Mr Rogers fynd at yr heddlu.

Mae tair dynes wedi dweud wrth Lys y Goron Abertawe ei fod wedi cyfaddef iddo ladd ei fam-gu, ond fe ddywedodd yntau ddydd Llun nad oedd yn cofio'r sgyrsiau hynny.

Dywedodd iddo amau'n wreiddiol bod y dair wedi cydlynu'u tystiolaeth, ond ei fod wedyn wedi sylweddoli bod y manylion wnaethon nhw eu crybwyll yn golygu bod yn rhaid ei fod wedi eu trafod gyda nhw.

Wrth gael ei groesholi gan yr erlyniad, dywedodd Mr Rogers ei fod yn dweud y gwir "weithiau" ond ei fod hefyd yn dweud celwydd ar brydiau er mwyn cael ei ffordd ei hun.

Dywedodd Paul Lewis QC: "Yn yr achos yma, y canlyniad rydych ei eisiau yw i'r rheithgor ddweud na wnelo marwolaeth eich mam-gu ddim â chi, oni ddim?"

Cytunodd Mr Rogers ond mynnodd nad yw wedi dweud celwydd wrth y rheithgor.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Penelope John a Barry Rogers yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth

Mae'r erlyniad yn honni bod Ms John wedi rhoi tabledi a wisgi i'w mam cyn i'w mab ei mygu gyda chlustog.

Cafodd y ddau eu harestio bedair blynedd wedi'r farwolaeth ar ôl i gyn-gymar Mr Rogers, Sandra Adams, fynd i'r heddlu.

'Pa fudd posib?'

Dywedodd Mr Rogers nad oedd yn credu y byddai wedi trafod y mater gyda Ms Adams, oherwydd nad oedd yn gweld eu perthynas fel un tymor hir.

Gofynnodd Mr Lewis: "Pa fudd posib fyddai o ganlyniad cyfaddef i bobl eich bod wedi lladd eich mam-gu os na wnaethoch chi hynny?"

Atebodd y cyn-filwr ei fod yn dioddef o PTSD a phroblemau salwch meddwl eraill a'i fod yn dweud celwydd i gael cydymdeimlad.

Gofynnodd Mr Lewis: "Sut bydde cyfaddef eich bod wedi lladd eich mam-gu yn cael mwy o gydymdeimlad na dweud eich bod wedi gwneud ymdrech i yrru o Wlad yr Haf i Sir Benfro i'w gweld (ond ei bod wedi marw)?"

Dywedodd Mr Rogers bod ei feddwl "yn gweithio'n wahanol ar y pryd".

'Dan ddylanwad cyffuriau'

Fe ofynnodd Mr Lewis wedyn os oedd wedi helpu Mrs Guy ddod â'i bywyd i ben am ei bod mewn poen annioddefol. Gwadu hynny wnaeth Mr Rogers.

Mae'r llys eisoes wedi clywed tapiau o sgyrsiau'r ddau ddiffynnydd wedi i'r heddlu roi offer recordio cudd yng nghartref Ms John ar ôl eu harestio a'u holi yn 2016.

Yn un o'r sgyrsiau, mae Mr Rogers yn dweud wrth ei fam: "Does gen ti ddim i boeni yn ei gylch - fi wnaeth e."

Dywedodd wrth y rheithgor ddydd Llun ei fod wedi dweud wrth ei fam ar eu ffordd adref o orsaf yr heddlu bod yna bosibilrwydd y byddai'r heddlu'n eu recordio.

Ychwanegodd ei fod "dan ddylanwad cyffuriau - rhai cyfreithlon a chanabis - fwy neu lai o'r eiliad wnaethon ni gyrraedd y tŷ" ar ôl cael eu rhyddhau.

Mae'r achos yn parhau.