Adroddiadau bod trowynt wedi difrodi tai yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Difrod i do ym Mhont CreuddynFfynhonnell y llun, Jenny Hicks
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y trowynt ddifrodi toeau tai ym mhentref Pont Creuddyn

Mae adroddiadau bod trowynt wedi achosi niwed i ddau dŷ yn ystod storm yng Ngheredigion.

Y gred yw i drowynt daro Pont Creuddyn ger Llanbedr Pont Steffan am 11:30 fore Iau wedi mellten yn ystod storm o daranau.

Yn ôl trigolion, daeth llechi'n rhydd o doeau dau dŷ yn y pentref, ac mae nifer o goed wedi eu chwythu i lawr.

Dywedodd tyst ei fod wedi gwylio'r trowynt yn mynd trwy'r pentref gan gludo swmp o ddail, a'i fod "wedi dod o nunlle".

Ychwanegodd nad yw "erioed wedi gweld dim byd tebyg" a bod y tywydd yn y pentref wedi llonyddu'n llwyr funudau'n ddiweddarach.

Dywedodd contractwr toeau a gafodd ei alw i'r pentref bod rhwng 15 a 20 o deils wedi cael eu chwythu i'r brif ffordd.

Yn ôl uwch swyddog gyda'r Swyddfa Dywydd mae'n debygol mai cwmwl tynffedol (funnel cloud) oedd o.

Roedd yna fand cul o gawodydd dros ardal Ceredigion ar y pryd.

Mae radar yn dangos bod hyd at 30mm o law wedi syrthio mewn awr, a gwyntoedd yn hyrddio hyd at 30 neu 40 m.y.a.