Cau twneli Brynglas ar yr M4 er mwyn uwchraddio

  • Cyhoeddwyd
The eastbound entrance to the Brynglas Tunnels on the M4Ffynhonnell y llun, Lewis Clarke/Geograph

Bydd rhan o draffordd yr M4 ar gau tua'r dwyrain o Gasnewydd o nos Sadwrn tan fore Sul er mwyn gwneud gwaith i uwchraddio twneli Brynglas.

Bydd traffig rhwng C28 (Parc Tredegar) a C24 (Coldra) yn cael ei ddargyfeirio ar hyd ffordd yr A48 i'r de o Gasnewydd.

Bydd y twnnel - sydd ger C26 Malpas - yn cau am 19:00 nos Sadwrn ac yn ailagor am 10:00 fore Sul.

Fel rhan o'r gwaith uwchraddio, mae'r twnnel i gyfeiriad y dwyrain ar gau ar nosweithiau'r wythnos.

Gwaith y penwythnos fydd y cyntaf o bum penwythnos pan fydd y ffordd yn cau am gyfnodau o 15 awr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y twneli wedi eu hadeiladu i hen safonau cynllunio ac nad ydyn nhw bellach yn cydymffurfio â'r ddeddf.

Mae pont Afon Wysg a thraphont cyffordd Malpas - sydd bob ochr i'r twneli - hefyd yn destun gwaith atgyweirio.

Gwaith Twneli Brynglas dros nos Sadwrn'bore Sul

Tua'r dwyrain:

  • 19:00 ar 27 Ionawr - 10:00 ar 28 Ionawr;

  • 19:00 ar 24 Chwefror - 10:00 ar 25 Chwefror.

Tua'r gorllewin:

  • 19:00 ar 3 Chwefror - 10:00 ar 4 Chwefror;

  • 19:00 ar 10 Chwefror - 10:00 ar 11 Chwefror;

  • 19:00 ar 17 Chwefror - 10:00 ar 18 Chwefror.