Staff prifysgolion yng Nghymru i fynd ar streic

  • Cyhoeddwyd
darlith brifysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff mewn pedair prifysgol yng Nghymru wedi pleidleisio i fynd ar streic

Mae darlithwyr mewn pedair o brifysgolion yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid cymryd rhan mewn streic dros gyfnod o bedair wythnos mewn anghydfod ynglŷn â thaliadau pensiwn.

Fe bleidleisiodd aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) o blaid gweithredu'n ddiwydiannol ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Phrifysgol Cymru.

Dywedodd UCU fod y newidiadau'n golygu cost ar gyfartaledd o £10,000 y flwyddyn i'w haelodau, ond mae'r cam yn un angenrheidiol yn ôl UUK - y corff sy'n cynrychioli'r prifysgolion.

Bydd y streiciau'n cael eu cynnal ar 14 o ddiwrnodau rhwng 22 Chwefror a 16 Mawrth.

'Effaith fawr'

Mae'r newidiadau sy'n cael eu cynnig yn golygu nad yw swm pensiwn terfynol yn cael ei warantu - yn hytrach bydd yn ddibynnol ar brisiau'r farchnad stoc.

Dywedodd Sally Hunt, ysgrifennydd cyffredinol UCU: "Maen nhw'n teimlo fod eu harweinwyr wedi eu gadael lawr, a bod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn amddiffyn eu breintiau eu hunain na hawliau eu staff.

"Dyw'r math yma o weithredu diwydiannol ar y fath raddfa heb ei weld o'r blaen mewn prifysgolion yn y DU, ond mae angen i'r prifysgolion wybod y bydd hyn yn cael effaith fawr pe na bai nhw'n datrys y broblem."

Dywedodd llefarydd ar ran UUK fod y penderfyniad wedi ei wneud ar gyfer budd yn yr hir dymor.

Ail bleidlais yn Abertawe

Mae 68 o brifysgolion ledled yn rhan o'r cynllun pensiwn, gyda 61 yn wynebu cyfnod o streic.

Dywedodd yr undeb y bydd ail bleidlais yn cael ei chynnal ymhlith staff Prifysgol Abertawe a chwech o brifysgolion eraill lle wnaeth llai na 50% o aelodau fwrw pleidlais, fel sy'n ofynnol yn ôl y rheolau.

Yn Abertawe, fe wnaeth 88.5% bleidleisio o blaid streicio, gyda 49.7% o'r aelodaeth yn pleidleisio.

Dyw'r newidiadau ddim yn effeithio ar sefydliadau sydd wedi derbyn statws prifysgol ar ôl 1992, neu sy'n rhan o gynllun pensiwn gwahanol.