Julian Lewis Jones: 'Angen buddsoddi yn nhalent Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Julian Lewis Jones yn dweud bod angen "cynyrchiadau gwreiddiol i Gymru"

Mae angen i'r llywodraeth fuddsoddi mwy mewn cwmnïau teledu a thalent o Gymru yn hytrach na'r tu allan, yn ôl actor.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Julian Lewis Jones ei fod yn "hollbwysig" fod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy mewn prosiectau sy'n wreiddiol i Gymru.

Ers 2012 mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron £10m mewn cwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru, ond hefyd dros £15m mewn cwmnïau o'r tu allan i'r wlad sy'n dod i weithio yma.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod cynyrchiadau sydd wedi eu hariannu ganddynt wedi cyfrannu dros £100m i'r economi dros bum mlynedd.

Ychwanegodd llefarydd ei fod yn "annhebygol iawn" y byddai rhai o'r cwmnïau wedi dod i Gymru heb y gefnogaeth ariannol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Julian Lewis Jones (canol) ym mheilot Down The Caravan, sydd wedi ei leoli ar barc carafanau yn Nhalacharn

Daeth sylwadau Mr Lewis Jones wrth iddo ffilmio peilot ar gyfer cyfres deledu yng Nghaerdydd - Down The Caravan.

Dywedodd nad oedd yn hawdd sicrhau arian i greu'r peilot, gafodd ei ariannu drwy ddulliau torfol a buddsoddiad preifat.

"Mae 'na lot fawr o ffilmio yn mynd 'mlaen yng Nghymru ers rhyw 10 mlynedd gyda rhaglenni fel Dr Who a hyn a'r llall yn dod yma," meddai.

"Ond beth sy'n bwysig i ni fel Cymry Cymraeg a di-Gymraeg ydy ein bod yn gwneud pethau sydd yn organig, yn wreiddiol ac yn berthnasol i Gymru. Ac mae Down The Caravan yn enghraifft o brosiect sy'n gwneud hynny.

"Mae'n grêt gweld y safon o deledu a ffilmiau sydd yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru ond mae'n hollbwysig bod ni yn cynhyrchu stwff ein hunain hefyd."

Ychwanegodd ei fod yn bwysig cael llwyfan i arddangos talent Cymru.

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n 'neud hyn ein hunain ac ein bod ni ddim jyst yn ymddwyn fel ryw fath o receiving house sy'n cynhyrchu pethau i bobl eraill," meddai.

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru ers 2012:

  • £9.6m wedi ei fuddsoddi mewn cynyrchiadau ffilm a theledu gan gwmnïau o Gymru;

  • £15.4m wedi ei fuddsoddi mewn cwmnïau o'r tu allan i Gymru sy'n gweithio yn y wlad.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Er mwyn creu cyfres sy'n cael ei wneud yng Nghymru, fe wnaeth y cynhyrchydd a'r awdur, Jerry a Kay Lockett, ail forgeisi eu tŷ er mwyn rhoi siawns i'r gyfres lwyddo.

Dywedodd Mr Lockett: "Rhowch e fel hyn, byddwn ni naill ai yn byw mewn tŷ llawer yn fwy a llawer mwy posh yn y dyfodol, neu bydd yn rhaid ni symud mewn i'n carafan am byth!"

Disgrifiad o’r llun,

Matthew Rhys sy'n chwarae rhan perchennog y parc, Dai

Ychwanegodd un arall o'r cynhyrchwyr, Cheryl Keatly: "Maen nhw [Llywodraeth Cymru] yn tueddu i roi arian i gwmnïau y tu allan i Gymru sy'n dod mewn i Gymru i weithio.

"Ond yn lwcus iawn fe wnaethon ni sicrhau arian ein hunain i allu cynhyrchu peilot sydd â chast a chriw o'r safon uchaf yn gweithio arni."

'Gwallgofrwydd a ffolineb llwyr'

Wrth siarad ar y Post Cyntaf fe ddywedodd Cadeirydd Teledwyr Annibynol Cymru, Iestyn Garlick ei fod yn "hanfodol bwysig" ein bod "yn gwneud pethau ein hunain".

Ychwanegodd ei fod yn "wallgofrwydd a ffolineb llwyr bod y llywodraeth yn gwrthod ariannu rhywbeth fel Down the Caravan".

"Tydi o chwaith ddim yn gwneud synnwyr i fi bod rhaid i gynhyrchiad wneud o leiaf 50% oi'i gwaith yng Nghymru. Mi ddylia nhw fod yn gwneud 99% yng Nghymru.

"Dwi hefyd yn teimlo y byddai'r cwmniau 'ma yn dod i Gymru beth bynnag... dwi ddim yn gweld bod angen talu iddyn nhw ddod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jerry a Kate Lockett wedi benthyg arian yn erbyn eu cartref er mwyn talu am y peilot

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod dros £100m wedi ei wario yng Nghymru gan gynyrchiadau allanol dros bum mlynedd, a'i fod yn "annhebygol" y byddai'r cwmnïau'n dod i Gymru heb eu buddsoddiad.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'n cymorth yn amodol ar nifer o feini prawf sy'n cynnwys yr angen i ddangos marchnad ryngwladol, bod o leiaf 50% o'r gwaith yn cael ei ffilmio yng Nghymru a'r budd economaidd tebygol i Gymru a fydd yn deillio ohono."

Dywedodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi cefnogi cynyrchiadau "sydd wedi profi llwyddiant rhyngwladol" a'u bod yn "parhau i gefnogi cyfryngau Cymraeg drwy ein cwmnïau cynhenid sy'n cynnwys Boom Cymru, Rondo Media, Cwmni Da, Telesgop ac Avanti Media".