Chwe Gwlad: Cyhoeddi tîm merched Cymru i herio'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Tîm merched CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm merched Cymru yn wynebu'r Alban yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener ym Mae Colwyn

Mae Prif Hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Rowland Phillips wedi cyhoeddi'r chwaraewyr fydd yn wynebu'r Alban yn gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.

Bydd y clo Natalia John, y blaenasgellwr Beth Lewis, y mewnwr Jade Knight a'r asgellwr Hannah Bluck i gyd yn ennill eu cap rhyngwladol cyntaf ym Mharc Eirias, Bae Colwyn.

Dyw Teleri Davies a Lisa Neumann ddim wedi ennill cap eto ond fe fyddan nhw yn dechrau ar y fainc.

Dywedodd Rowland Phillips: "Rydym yn gweld mwy o gystadleuaeth ar gyfer llefydd, sy'n amlwg wrth edrych ar y tîm ar gyfer nos Wener,

"Mae'r cyfartaledd oedran yn 24, felly dwi'n disgwyl i'r chwaraewyr yma wthio'i gilydd am nifer o flynyddoedd," meddai.

Tîm merched Cymru: Jodie Evans, Hannah Bluck, Kerin Lake, Rebecca De Filippo, Jess Kavanagh-Williams, Robyn Wilkins, Jade Knight, Caryl Thomas, Carys Phillips (capten), Amy Evans, Natalia John, Mel Clay, Alisha Butchers, Beth Lewis, Siwan Lillicrap.

Eilyddion: Kelsey Jones, Gwenllian Pyrs, Cerys Hale, Teleri Davies, Nia Elen Davies, Rhiannon Parker, Lleucu George, Lisa Neumann.