Statws Ewropeaidd arbennig i ddiogelu Caws Caerffili

  • Cyhoeddwyd
caws caerffiliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Caws Traddodiadol Caerffili ei gynhyrchu am y tro cyntaf y 1987

Mae Caws Traddodiadol Caerffili wedi cael statws arbennig gan y Comisiwn Ewropeaidd gan olygu ei fod nawr yn mwynhau'r un statws â Champagne, Ham Parma a Pheis Porc Melton Mowbray.

Mae'n golygu fod Caws Caerffili, yr unig gaws brodorol o Gymru, yn cael ei warchod yn gyfreithiol ar draws Ewrop rhag cael ei gopïo.

Cafodd y cais ei gyflwyno gan wneuthurwyr Caws Caerffili yng Nghymru, wedi'u harwain gan Carwyn Adams o Gaws Cenarth yn Sir Gâr.

Dechreuodd Gwynfor a Thelma Adams o Gaws Cenarth gynhyrchu'r caws yn 1987, ac mae eu rysáit gwreiddiol yn dal i gael ei ddefnyddio i gynhyrchu Caws Caerffili.

'Gwarantu ansawdd'

Dywedodd Carwyn Adams eu bod yn parhau i ddilyn y rysáit yn ofalus iawn.

"Mae hynny'n cynnwys torri'r ceulion yn ofalus a mowldio'r caws yn unigol â llaw," meddai.

"Rydym wrth ein bodd bod enw'r caws bellach yn cael ei warchod.

"Mae hyn yn gwarantu ei ansawdd a'i ddilysrwydd, ac yn profi bod y caws wedi'i gynhyrchu gan bobl fedrus sy'n frwd dros gynhyrchu caws."

Ffynhonnell y llun, Caws Cenarth
Disgrifiad o’r llun,

Mae 15 o fwydydd neu diodydd o Gymru nawr yn mwynhau statws arbennig PFN

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i bob cynhyrchydd yng Nghymru sydd am gael statws PFN - sef statws Enwau Bwyd Gwarchodedig Ewrop.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: "Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu Caws Cenarth, ar ran pawb sy'n cynhyrchu Caws Caerffili, gyda'r cais hwn.

"Rydym yn falch bod gennym 15 o gynhyrchion bwyd a diod bellach sydd wedi cael statws PFN. Mae hyn yn tystio i ansawdd uchel a natur unigryw ein cynnyrch."