Dathlu cynnyrch Cymru

  • Cyhoeddwyd
bae

Mae Gŵyl Fwyd a Diod Caerdydd yn cael ei chynnal ar benwythnos 14-16 Gorffennaf gyda chyfoeth o ddewisiadau i ddenu'r dŵr i'r dannedd.

Er y bydd bwydydd y byd yn cael eu harddangos, mae'n rhaid cofio nad oes rhaid mynd yn bell i brofi bwyd o safon.

Ers blynyddoedd lawer mae cynnyrch traddodiadol Cymreig fel cacennau cri, bara brith, a bara lawr wedi ennill bri yn rhyngwladol, ond erbyn heddiw mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn dechrau ennill eu plwy mewn meysydd eraill hefyd:

Caws Cymreig

Mae Cymru yn nefoedd i'r rhai sy'n mwynhau caws, a bellach mae amrywiaeth eang o fathau o gaws o Gymru. Ymhlith y mwyaf poblogaidd mae cwmnïau Caws Teifi, Caws Preseli, Perl Las gan Caws Cenarth, Caws Blaenafon, Caerffili a Chaws Caerfyrddin.

Mêl

Mae'r hinsawdd yng Nghymru hefyd yn ei gwneud hi'n ddelfrydol i gynhyrchu mêl a jam. Un cwmni sy'n ffynnu yn Sir Benfro yw cwmni mêl a marmalêd Coedcanlas. Yng Nghaersŵs mae'r cwmni Hilltop Honey yn mynd o nerth i nerth dan reolaeth Scott Davies ac yn darparu mêl organig i archfarchnad Sainsbury's. Mae hefyd ffermydd gwenyn yn Aberaeron a Llanberis.

Wisgi

Mae Penderyn yn enw adnabyddus yn rhyngwladol, ond o Landysul daw'r wisgi organig cyntaf o'r enw Dà Mhìle. Gyda dwy ddistyllfa yng Nghymru mae'r Undeb Ewropeaidd yn cydnabod Cymru bellach fel gwlad sydd â diwydiant wisgi.

Gwinoedd

Mae gwinoedd Cymru yn cael eu cymryd o ddifri'r dyddia 'ma, gyda gwin Ancre Hill o 2008 yn ennill gwobr anrhydeddus yng ngwobrau Bollicine Del Mondo yn Verona yn 2012.

Mae gwinoedd o winllan Llannerch ym Mro Morgannwg, yr hynaf a mwyaf yng Nghymru, hefyd wedi ennill gwobrau rhyngwladol.

Yng ngogledd Cymru mae gwinllannoedd Conwy, Tŷ Croes a Pant Ddu, ac yn y canolbarth mae gwinllannoedd Penarth a Kerry Vale.

Cwrw a seidr

Roedd bragdy Felinfoel yn Llanelli yn arloeswyr gan roi eu cwrw mewn caniau yn yr 1930au. Heddiw, mae Felinfoel yn allforio gwahanol mathau o'u cwrw cyn belled â Tokyo.

Ym Mhorthmadog mae Bragdy Mŵs Piws, sydd yn boblogaidd yn nhafarndai y gogledd ac yn cael ei allforio i'r Ffindir, China a Hong Kong.

SA Brains yw'r cwmni cwrw mwyaf yng Nghymru, gyda 130 o dafarndai. Mae 1,894 o weithwyr ganddyn nhw yn eu tafarndai.

Mae'r bragdy masnachol lleiaf yn y byd yn ardal Aberystwyth. Mae Bragdy Gwynant yn llai na 5 troedfedd sgwâr! Un cwsmer sydd gan y bragdy; y dafarn drws nesaf - Tafarn Tynllidiart.

Mae dros 60 o gwmnïau seidr yng Nghymru, gan gynhyrchu 1.1 milliwn litr bob blwyddyn. Ymhlith y mwyaf poblogaidd mae Gwynt y Ddraig, sy'n allforio i Awstralia, Y Ffindir, Norwy a'r Almaen.

Dŵr

Mae poteli o ddŵr o Gymru yn cael eu gwerthu'n rhyngwladol erbyn hyn, gan gynnwys Tŷ Nant, Brecon Carreg, Dŵr Cerist, Dŵr Llanllŷr, Prince's Gate a Radnor Hills.

Cigoedd

Mae cig oen a chig eidion Cymru wedi eu gwarchod dan y Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gan yr Undeb Ewropeaidd. Gwartheg Duon Cymru yw un o'r mathau hynaf o wartheg ym Mhrydain, ac mae cig oen Cymru yn enwog am ei ansawdd da, melys.

Mae ham Caerfyrddin hefyd yn adnabyddus am ei safon, ac yn 2016 fe gafodd hefyd Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae cwmni Edwards o Gonwy hefyd wedi cael llwyddiant yn rhyngwladol gan werthu eu selsig mewn archfarchnadoedd ar hyd a lled y byd.

Siocled

Mae Siocledi Cathryn Cariad o Flaenau Ffestiniog wedi ehangu, gan gynhyrchu truffles brandi ac yn gwneud siocledi siapiau esgidiau, bagiau a photeli gwin. Mae cwmni NomNom yn Llanboidy a chwmni Black Mountain Gold hefyd ymysg y nifer o gwmnïau siocled sy'n tyfu yng Nghymru.

Cacennau

Cacennau Aberffraw/Cacen Berffro o Ynys Môn yw'r rysáit bisged hynaf ym Mhrydain, ac mae sôn ei fod yn dyddio nôl i'r 13eg ganrif.

Mae cacennau cri Tan y Castell yn cael eu gwerthu yn rhyngwladol ac mae cwmniau cacennau Blas ar Fwyd a Siwgr a Sbeis o Ddyffryn Conwy hefyd yn ffynnu. Mae bara brith hefyd wedi dechrau ymddangos mewn siopau yn rhyngwladol.

Bwyd môr

Mae bara lawr wedi cynyddu mewn poblogrwydd yn rhyngwladol ac mae i'w weld mewn tai bwytau crand y dyddiau 'ma.

Mae cwmni pysgod Penmon, Sir Fôn yn allforio i America ac mae'r Lobster Pot yn allforio i wledydd Ewrop, y dwyrain canol ac Asia.

Ar lannau Afon Menai mae gan bysgod cregyn, llymarch (oyster) a chregyn gleision flas unigryw, hyfryd.

Mae Halen Môn yn cael ei ddefnyddio gan gogyddion enwog fel Heston Blumenthal a Ferran Adrià, ac mae rhywfaint ohono ar hoff siocled yr Arlywydd Obama. Mae wedi cael statws arbennig gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae'n cael ei allforio i wledydd fel Rwsia, China a Gwlad Belg.

Creision

Mae creision Jones o Gymru o Langefni yn defnyddio tatws Cymreig ar gyfer eu cynnyrch. Dim ond saith mlynedd sydd yna ers i'r cwmni gael ei sefydlu ond mae'r creision bellach yn cael eu gwerthu yn yr archfarchnadoedd mawr.