Cwmni cig Dunbia yn gwadu bod swyddi yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Iwerddon sy'n cyflogi dros 1,100 o bobl yn y diwydiant prosesu cig yng ngorllewin Cymru yn dweud fod adroddiadau yn y wasg am ddiswyddiadau yn anghywir.
Ond ychwanegodd llefarydd ar ran Dunbia eu bod yn "arolygu eu ffatrïoedd yng Nghymru".
Mae Grŵp Dunbia, sy'n cynnwys partneriaeth gyda chwmni Dawn, yn berchen ar safleoedd yn Llanybydder a Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin, tra bod cytundeb prydles ganddynt ar ffatri Felin-fach yng Ngheredigion.
Roedd y cwmni yn ymateb i straeon yn y wasg fod pryder ynglŷn â swyddi dros 170 o weithwyr Felin-fach yn Nyffryn Aeron.
'Buddsoddiad'
"Mae gennym record falch fel prif gyflogwr yng Nghymru ac fel cwmni sy'n cefnogi'r diwydiant amaeth, ac rydym yn bwriadu parhau â hynny.
"Ar hyn o bryd mae dros 1,100 o staff yng Nghymru ac mae buddsoddiad yn debygol o olygu fod y nifer yn cynyddu yn hytrach na gostwng.
"Ond rydym yn adolygu maint ein ffatrïoedd yng Nghymru.
"Mae Felin-fach yn safle sydd ar les, tra bod y grŵp yn berchen ar Lanybydder a Cross Hands. Mae'r ddau yma wedi gweld buddsoddiad helaeth yn y blynyddoedd diweddar a'n bwriad yw buddsoddi a thyfu'r safleoedd ymhellach."
Dywedodd Elin Jones, AC Ceredigion ei bod wedi cwrdd â chynrychiolwyr Dunbia yn gynharach yr wythnos, a'i bod hi yn ymwybodol eu bod yn cynnal arolwg o'u safleoedd yn y gorllewin.
"Mae'n bwysig fod ymgynghoriad llawn gyda'r holl staff ynglŷn ag unrhyw newidiadau. Mae'r sector amaethyddol angen i Dunbia a Dawn i barhau yng Nghymru ac i dyfu eu capasiti prosesu."
Fe wnaeth Dunbia symud i hen safle Dairy Gold yn Nyffryn Aeron yn 2013 gan gyflogi bron i 200.
Ar y pryd dywedodd y cwmni eu bod yn buddsoddi £7.5m yn y safle prosesu cig, gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu tua £1.8m.
Amodau cymhorthdal
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn modd positif gyda'r cwmni er mwyn deall y gefnogaeth sydd angen ar y cwmni a'r gweithwyr wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
"Fe fydd y cymhorthdal yn cael ei arolygu, fel rhan o arolwg o sefyllfa'r cwmni a'r amodau ynglŷn â'r cymhorthdal.
"Tan fod hynny wedi ei gwblhau, ni allwn wneud datganiad pellach ar y mater."
Mae safle Llanybydder yn cyflogi tua 600, gydag dros 500 yn Cross Hands.