Darganfod anifeiliaid anwes mewn tŷ llawn ysgarthion
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl wedi cael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd ar ôl i'r awdurdodau ddarganfod cŵn a chathod mewn cartref oedd wedi'i lygru gydag ysgarthion.
Fe gyfaddefodd Robert Roy Rickman, 45, a Ceri Ann Rickman, 32, o Lansawel, Castell-nedd Port Talbot, i gyhuddiadau o amddifadu'r anifeiliaid, sy'n cynnwys 15 cath a dau gi.
Dywedodd un o arolygwyr yr RSPCA ei fod mewn "sioc" ac wedi "torri ei galon" wrth ddarganfod yr anifeiliaid anwes.
Clywodd Llys Ynadon Abertawe fod yr amodau byw'n "ofnadwy".
Cafodd gwastraff dynol ac anifeilaidd ei ddarganfod ar draws yr eiddo. Roedd wrin mewn poteli plastig, sbwriel ar draws yr ystafelloedd ac arogl drwg drwy'r adeilad.
Fe gyfaddefodd y diffynyddion i achosi dioddefaint diangen i 15 o gathod domestig, a methu â chymryd camau rhesymol i ofalu am anghenion dau gi.
Fe gafodd y ddau waharddiad o 10 mlynedd yr un rhag cadw anifeiliaid, yn ogystal â dirwy o £300 yr un, a thâl dioddefwr o £85.
Dywedodd yr RSPCA fod yr holl anifeiliaid anwes wedi cael eu hailgartrefu.