Angen ail gynnig i ddewis masgot nesa'r Cymry Brenhinol

  • Cyhoeddwyd
Siencyn III gyda'i dywysydd Mark JacksonFfynhonnell y llun, Y Fyddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r afr gatrodol yn bresenoldeb amlwg yng ngemau rygbi Cymru

Ofer oedd ymdrechion Catrawd y Cymry Brenhinol ddydd Gwener i ddewis gafr newydd ar gyfer dyletswyddau catrodol.

Mae'n draddodiad ers dros ganrif i ddal un o'r geifr ar Ben y Gogarth yn Sir Conwy a'i dywys i dde Cymru lle bydd yn cael misoedd o hyfforddiant cyn cychwyn ar y gwaith yn swyddogol.

Fe fydd aelodau'r gatrawd yn rhoi ail gynnig arni yn y dyddiau nesaf ac fe fydd yr afr ddethol yn cael ei hadnabod fel Shenkin IV.

Mae'r afr gatrodol â phresenoldeb amlwg mewn gemau rygbi rhyngwladol ac wrth arwain aelodau'r bataliwn mewn gorymdeithiau.

Cyflwr y cyrn

Dywedodd yr is-gorpral Ryan Arthur, tywysydd yr afr gatrodol, bod angen dewis anifail sy'n edrych "yn ddigon iach" i wneud y gwaith.

"Rydym yn edrych ar sut mae ei gyrn yn tyfu," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr cyrn yr afr yn arwydd o ba mor iach yw'r anifail

Mae'n draddodiad i'r catrawd dderbyn un o eifr Y Gogarth ers 1844, pan gafodd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yr afr frenhinol swyddogol gyntaf gan y Frenhines Victoria.

Dywedodd prif swyddog y catrawd, yr is-gyrnol Nick Lock: "Mae'n rhywbeth sy'n ein gwneud ni'n wahanol i gatrodau eraill.

"Mae pob un o'r tri bataliwn â gafr gatrodol. Mae'n rhywbeth rydym yn falch ohono."

Ychwanegodd y bydd y broses o hyfforddi'r afr newydd yn un "araf".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n draddodiad y mae'r catrawd yn falch ohono, medd yr is-gyrnol Nick Lock

Y gobaith yw y bydd yn cychwyn ar ei dyletswyddau swyddogol erbyn mis Mai 2019 pan fydd aelodau'r catrawd yn dychwelyd wedi cyfnod yn Afghanistan.

"Mi fydd, gobeithio, yn barod ar gyfer yr holl orymdeithiau i groesawu'r milwyr yn ôl," meddai'r is-gyrnol.

Bu farw un o eifr eraill y catrawd ym mis Medi y llynedd.

Llywelyn, masgot bataliwn cyntaf y Catrawd Brenhinol, sydd wedi bod yn cyflawni'i dyletswyddau yn y cyfamser.