Argymell diarddel Michelle Brown am wythnos heb dâl

  • Cyhoeddwyd
Michelle BrownFfynhonnell y llun, UKIP

Mae AC rhanbarthol UKIP yng Ngogledd Cymru'n wynebu cael ei diarddel o'r Cynulliad am wythnos heb dâl am ddefnyddio term hiliol i ddisgrifio AS Llafur.

Daeth aelodau'r pwyllgor safonau, sy'n cynnwys Gareth Bennett o blaid UKIP, i'r casgliad fod Michelle Brown wedi torri'r côd ymddygiad yn "ddifrifol".

Fe wnaeth Ms Brown y sylw am Chuka Umunna yn ystod galwad ffôn breifat yn 2016, ac fe ymddiheurodd os oedd wedi peri loes pan ddaeth recordiad o'r alwad i'r amlwg.

Dywedodd llefarydd ar ei rhan bod bwriad i gyflwyno apêl.

Gan gyfeirio at achosion o gyhoeddusrwydd negyddol ynghlwm â Mr Bennett, fe ychwanegodd y llefarydd: "Dyw Michelle Brown ddim yn debygol o dderbyn unrhyw wersi ynglŷn â chywirdeb gwleidyddol a sut i fihafio gan Gareth Bennett."

Daeth argymhelliad y pwyllgor safonau - a chanlyniadau'r ymchwiliad gan y comisiynydd safonau, Syr Roderick Evans, oedd yn sail iddo - i'r amlwg wedi i'r adroddiad gael ei ryddhau'n answyddogol i BBC Cymru.

Bydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio o blaid gweithredu'r argymhelliad. Y gred yw taw dyma'r achos cyntaf o'i fath.

Hawliau gwleidydd i wneud pwyntiau

Cafodd Mr Umunna, AS Streatham, ei ddisgrifio gan Ms Brown fel "coconyt" wrth sgwrsio a'i huwch ymgynghorydd ar y pryd, Nigel Williams, ym Mai 2016. Fe roddodd yntau recordiad o'r sgwrs i bapur y Daily Post haf diwethaf.

Doedd y term, ym marn y comisiynydd safonau, ddim yn cwrdd â'r safon ymddygiad sydd i'w disgwyl gan ACau.

Dywedodd bod y pwynt yr oedd Ms Brown yn ceisio ei wneud - bod magwraeth freintiedig Mr Umunna, er ei etifeddiaeth, yn golygu nad oedd ganddo well ddealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu person du cyffredin - "o fewn yr ystod o bwyntiau y mae hawl i wledidydd eu gwneud".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Brown ei bod yn ceisio gwneud pwynt am fagwraeth freintiedig Chuka Umunna

Ond wrth wneud y pwynt hwnnw "fe ddefnyddiodd Ms Brown derm hiliol".

Dywedodd y comisiynydd bod dadl Ms Brown - bod y sgwrs yn un breifat a phersonol rhwng dau gyfaill a chydweithwyr - yn "afrealistig", gan ei bod yn trafod amodau cyflogaeth person roedd hi'n ystyried ei gyflogi.

Cytunodd y pwyllgor bod y term yn yr achos hwn yn un hiliol a chwbwl annerbyniol, gan ei chyhuddo o roi enw drwg i'r Cynulliad.

Gan ychwanegu bod dim lle i hiliaeth o fewn cymdeithas, dywedodd yr aelodau bod angen i ACau lynu i'r côd ymddygiad bob awr o'r dydd.

Yn ôl yr adroddiad, roedd Ms Brown wedi dadlau nad oedd y term yn hiliol, a'i bod yn ddiedifar ynglŷn â'r geiriad.

'Penderfyniad anghywir'

Dywedodd bod ei geiriau wedi eu recordio a'u rhyddhau i'r wasg heb ei chaniatad, am resymau maleisus ac nid er lles y cyhoedd.

Ond mae'r adroddiad yn nodi iddi ymddiheuro maes o law os oedd ei sylwadau wedi peri loes.

Am mai cadeirydd y grŵp Llafur wnaeth gwyno'n wreiddiol, fe benderfynnodd yr AC Llafur Jane Bryant i beidio bod yn rhan o drafodaethau'r pwyllgor, gan olygu mai'r tri aelod arall fu'n trafod y mater - Llyr Gruffydd o Blaid Cymru, y Ceidwadwr Paul Davies a Gareth Bennett ar ran UKIP.

Dywedodd y pwyllgor nad oedd yn dymuno gweld rhagor o gŵynion yn cael eu cyflwyno gan grŵp yn yr un modd eto gan ei fod yn gael "effaith niweidiol ar y broses".

Fe ddywedodd llefarydd Ms Brown: "Wrth gwrs fydd Michelle yn apelio - mae'r pwyllgor wedi gwneud penderfyniad anghywir."

Dywedodd llefarydd UKIP Cymru y byddai'n amhriodol i wneud sylw ar adroddiad yr honnir iddo gael ei ryddhau'n answyddogol.