Cynghorau'n gwerthu hysbysebion ar y we am incwm ychwanegol
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar cyngor yng Nghymru wedi gwneud mwy na £34,500 drwy ddangos hysbysebion ar eu gwefannau mewn ymgais i gynyddu incwm pan mae cyllidebau'n gwasgu.
Mae cynghorau Blaenau Gwent, Torfaen, Wrecsam a Bro Morgannwg wedi bod yn dangos hysbysebion ers 2014.
Mae'r rhan fwyaf yn cyflogi Rhwydwaith Hysbysebu'r Cyngor er mwyn ceisio dod o hyd i hysbysebion, ac yn cael arian am bob clic o'u gwefan.
Dywedodd Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru fod cynghorau'n ymateb i bwysau ariannol cynyddol.
£14,479 y llynedd
Hyd yn hyn mae'r hysbysebion wedi cynhyrchu cyfanswm o £34,585.
Cyngor Wrecsam sydd wedi sicrhau'r refeniw mwyaf, gyda £5,176 yn 2014/15, £9,109 yn 2016/17 a £14,479 y llynedd.
Mae Blaenau Gwent wedi sicrhau £1,500 ers 2014, mae cyngor Torfaen wedi gwneud £2,321 yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, tra bod cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud ychydig yn llai na £2,000 y llynedd.
Mae pob hysbyseb yn cael ei gymeradwyo gan y cynghorau cyn ymddangos ar eu gwefannau ac mae rhai cynghorau, fel Torfaen, hefyd yn blaenoriaethu busnesau lleol.
Mae rhai sefydliadau sy'n ymwneud â phynciau fel hapchwarae, gweithdrefnau cosmetig, alcohol, cyffuriau a rhai sy'n hyrwyddo bingo a safleoedd loteri, wedi eu gwahardd.
Mae ymgyrchoedd gwleidyddol a chrefyddol a chynnyrch colli pwysau hefyd wedi cael eu gwahardd.
'Lleihau'r baich ar drethdalwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mewn ymateb i'r pwysau ariannol cynyddol, mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio i adnabod cyfleoedd i gynhyrchu incwm a allai roi hwb i'w refeniw a lleihau'r baich ar drethdalwyr y cyngor.
"Mae refeniw hysbysebu yn un ffrwd ymhlith ystod o rai eraill y mae rhai cynghorau wedi penderfynu eu harchwilio a'u datblygu ymhellach.
"Bydd cynghorau'n penderfynu ar y mater yn lleol, yn unol â'u hamgylchiadau a'u blaenoriaethau unigol eu hunain, yn seiliedig ar y ffyrdd mwyaf priodol o gynhyrchu incwm yn eu hardaloedd."
Ychwanegodd y llefarydd nad yw hyrwyddo hysbysebion ar wefannau'r cyngor yn cael ei weld fel cymeradwyaeth swyddogol neu argymhelliad o gynhyrchion neu wasanaethau.