Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 34-7 Yr Alban

  • Cyhoeddwyd
Trydydd cais Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Leigh Halfpenny arwain y perfformiad gyda dau gais, pedwar trosiad a dwy gic gosb

Mae Cymru wedi cael y dechrau gorau posib i ymgyrch y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth gampus yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Principality.

Fe sgoriodd tîm Warren Gatland bedwar cais gan sicrhau pwynt bonws yng ngêm agoriadol y bencampwriaeth.

Yn groes i'r disgwyliadau wedi'u perfformiadau yn erbyn Awstralia a Seland Newydd yng nghyfres yr Hydref, roedd yn rhaid i'r Alban aros tan funudau olaf y gêm cyn sgorio'u pwyntiau cyntaf.

Fe sgoriodd Leigh Halfpenny ddau gais a 24 o bwyntiau.

Daeth arwyddion o'r grasfa i ddod wedi ceisiadau cynnar gan Gareth Davies a Halfpenny.

Roedd amddiffyn Cymru'n rhy gryf drwy'r hanner cyntaf, gan roi mantais o 14 pwynt dros y gwrthwynebwyr erbyn yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Davies wnaeth sgorio cais cyntaf pencampwriaeth 2018

Sgoriodd Halfpenny ei ail gais a dau gic gosb yn fuan yn yr ail hanner cyn i Steff Evans groesi'r llinell am y cais wnaeth sicrhau pwynt bonws.

Fe wnaeth Gareth Anscombe farc yn fuan ar ôl dod i'r cae yn lle Rhys Patchell gyda phas wych at Wyn Jones ac fe roedd yn ymddangos fel petai wedi tirio nes i'r ddyfarnwr fideo benderfynu nad cais mohono.

Briwsionyn o gysur i'r Albanwyr oedd cais Peter Horne wedi 79 munud.

Mae'r canlyniad yn golygu bod record ddi-guro Cymru gartref yn erbyn Yr Alban wedi ei hymestyn i 16 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Shingler gafodd ei enwi yn seren y gêm

Fe lwyddodd Leigh Halfpenny i sgorio gyda phob un o'i chwe chic trwy'r pyst, ond y blaenasgellwr Aaron Shingler gafodd ei enwi'n seren y gêm.

Pencampwyr presennol y Chwe Gwlad, Lloegr, fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru yn Twickenham ar 10 Chwefror tra bo'r Alban yn erbyn Ffrainc yn Murrayfield ar 11 Chwefror.

Dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland bod y gêm wedi mynd yn union yn ôl y disgwyl o weld y garfan yn ymarfer yn y dyddiau diwethaf.

"Roedd yna hyder tawel o fewn y garfan. Roedden ni'n disgwyl i ni ennill ac ennill yn gyfforddus," meddai.

"Fe ofynnodd prif weithredwr Undeb Rygdi Cymru ddoe sut roeddwn i'n gweld pethau ac mi ddywedais i fy mod yn disgwyl i ni ennill o 20 pwynt.

"Oni bai am ildio cais hawdd yn y diwedd roedd yn enghraifft wych o amddiffyn. Roedd yn wych i gael y pwynt bones hefyd ac fe allen ni wella eto ar gyfer wythnos nesa'."