Rhybudd am eira a rhew mewn grym ledled Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Getty/Y Swyddfa Dywydd

Mae rhybudd am eira a rhew mewn grym ar gyfer Cymru gyfan o nos Lun nes brynhawn Mawrth.

Bydd y rhybudd melyn mewn grym rhwng 20:00 ddydd Llun a 15:00 ddydd Mawrth.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd glaw yn troi'n genllysg ac eira, ac maen nhw'n rhybuddio pobl i gymryd gofal ar y ffyrdd, yn enwedig rhai sydd ddim wedi'u graeanu.

Ychwanegon nhw y gallai hyd at 5cm o eira ddisgyn ar dir uchel.

Mae rhybudd arall mewn grym ar gyfer gorllewin y wlad o 05:00 fore Mawrth nes 10:00 fore Mercher.