Enillydd Cân i Gymru i gystadlu ar 'The Voice'

  • Cyhoeddwyd
tesniFfynhonnell y llun, Tesnijones

Mae cantores enillodd Cân i Gymru yn gobeithio creu argraff mewn cystadleuaeth gerddorol arall ar y teledu.

Bydd Tesni Jones o Fae Colwyn yn cystadlu ar 'The Voice' ar ITV1.

Dywedodd Tesni ar gyfryngau cymdeithasol, dolen allanol ei bod hi'n edrych 'mlaen at gymryd rhan ar y gyfres boblogaidd.

Roedd Tesni yn aelod o'r grŵp Pheena gyda Ceri Bostock a Sara Roberts cyn iddi hi ennill tlws Cân i Gymru yn 2011 gyda'r gân Rhywun yn Rhywle.

Fydd ei llais hi'n creu argraff ar Will.i.am, Olly Murs, Jennifer Hudson a'r Cymro Syr Tom Jones?

Bydd Tesni yn perfformio ar 'The Voice' nos Sadwrn ar ITV1 am 20:00.

Disgrifiad o’r llun,

Tesni yn ei dyddiau yn y band Pheena gyda Ceri a Sara