Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Lloegr 12-6 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pwy wnaeth gyrraedd yn gyntaf Anscombe neu WatsonFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Pwy wnaeth gyrraedd yn gyntaf Anscombe neu Watson?

Colli oedd hanes Cymru yn Twickenham - ond byddai hynny wedi gallu bod mor wahanol pe bai'r dyfarnwr teledu wedi caniatáu cais gan Gareth Anscombe.

Erbyn y diwedd, roedd Lloegr yn falch o gicio'r bêl i'r ystlys, gyda Chymru yn gwybod y byddai trosgais wedi sicrhau buddugoliaeth oedd wedi edrych yn annisgwyl am y rhan fwyaf o'r gêm.

Roedd hyn ar ôl dechrau sigledig iawn i'r tîm wnaeth chwarae mor amddiffynnol gadarn yn eu buddugoliaeth o 34-7 yn erbyn yr Alban.

Hyd yn oed cyn dechrau'r gêm roedd yna ergyd i Gymru, gyda'r newyddion nad oedd y cefnwr Leigh Halfpenny yn ddigon iach i chware, gyda'i le yn mynd i Anscombe.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Jonny May yn sgorio cais cynfaf Lloegr

Fe roedd Lloegr ar y blaen yn gynnar, Jonny May yn manteisio ar gic Owen Farrell ac yn croesi'r llinell gais.

May hefyd sgoriodd ail gais Lloegr, yn manteisio ar ddadlwytho celfydd Joe Launchbury.

Fe lwyddodd Rhys Patchell i leihau'r bwlch i naw pwynt cyn yr egwyl.

Daeth tri phwynt arall o esgid Anscombe wrth i Gymru gadw o fewn hyd braich i Loegr.

Disgrifiad,

Scott Williams yn sôn am ei siom ar Y Clwb Rygbi

Fe lwyddodd Cymru i sicrhau mwy o feddiant yn yr ail hanner ond roeddynt yn ei chael yn anodd i dorri allan o'r 22.

Eithriad amlwg i hynny oedd bylchiad Aaron Shingler ac yna ei gic yn bygwth amddiffyn Lloegr, cyn i Farrell achub ei dîm.

Daeth cyfle euraid arall i Gymru yn dilyn pasio celfydd lawr yr asgell chwith, a Scott Williams yn ceisio llithro dros y llinell o bedwar metr, ond iddo gael ei rwystro gan Sam Underhill.

Yn y diwedd amddiffyn Lloegr, a'u gêm gicio fanwl lwyddodd i gadw Cymru rhag sgorio er gwaetha' diweddglo cyffrous.

Ond fe fydd Cymru yn edrych yn ôl ar benderfyniad y dyfarnwr teledu yn yr hanner cyntaf pan oedd yn ymddangos i Anscombe gael ei law i'r bêl gyntaf o flaen Anthony Watson, asgellwr Lloegr, ar ôl iddi groesi'r llinell gais.

Nid felly welodd y dyfarnwr teledu bethau, gan ddweud fod Watson wedi tirio'r bêl gyntaf - penderfyniad oedd yn destun trafod ymhell wedi diwedd yr ornest.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd capten Cymru Alun Wyn Jones yn ddigon hapus i ddweud ei ddweud