Tywydd garw yn effeithio ar rannau o Gymru ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd
RhybuddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Mae gwynt a glaw trwm wedi effeithio ar rannau helaeth o Gymru ddydd Mawrth.

Roedd rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd mewn grym o 00:05 tan 10:00, gyda rhagolygon am eira ar diroedd uchel.

Ardaloedd y gorllewin brofodd y tywydd gwaethaf, gyda siroedd Dinbych, Fflint a Wrecsam yn osgoi'r tywydd garw.

Fe gyhoeddodd cwmni Irish Ferries eu bod yn canslo teithiau rhwng Caergybi a Dulyn oherwydd y tywydd.

Dywedodd y cwmni y dylai teithwyr oedd i fod i groesi am 08:00 a 11:50 gysylltu gyda nhw i ail-drefnu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae teithiau Irish Ferries rhwng Caergybi a Dulyn wedi eu canslo

Roedd rhybudd hefyd y gallai'r tywydd effeithio ar ffyrdd a rheilffyrdd, gyda chyfyngiadau cyflymder yn debygol.

Roedd disgwyl glaw trwm gyda chawodydd o genllysg neu eira ar dir uchel yn gynnar yn y bore.

Roedd rhybudd bod hyd at 20mm o law yn bosibl o fewn dwy neu dair awr, sydd yn ddigon i achosi llifogydd ar rai ffyrdd.